Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
19 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Mawrth 2021
Yn dod i rym
14 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 22(3) a (4) a 32(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2013” yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013(2).
2. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013, yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”, yn lle “ym mis Mehefin 2018 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”” rhodder “ar wefan llyw.cymru(3) ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion””.
3.—(1) Mae llywodraethwr a gwblhaodd, rhwng 18 Tachwedd 2020 a’r adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym, hyfforddiant i lywodraethwyr ynghylch data perfformiad ysgolion a bennir yn nogfen 2020 a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran i’w drin, at ddiben rheoliad 5(1) a (3) o Reoliadau 2013, fel pe bai wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol ar ddata perfformiad ysgolion.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “dogfen 2020” (“the 2020 document”) yw’r ddogfen hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar wefan llyw.cymru ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion”;
mae i “hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“school performance data training”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2013.
4. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi ar hyn o bryd mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”, y cyfeirir ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“dogfen 2018”) yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn rhoi yn lle’r cyfeiriad at Ddogfen 2018 gyfeiriad at yr hyfforddiant newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion” a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 (“dogfen 2020”). Gellir ei gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod llywodraethwyr ysgol a gwblhaodd yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn nogfen 2020, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i’w trin fel pe baent yn bodloni’r gofynion hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion o dan Reoliadau 2013.
Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith fel nad oes rhaid i lywodraethwyr ysgol presennol gwblhau’r hyfforddiant yn nogfen 2020 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.