- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i ddiwygiadau a wnaed gan Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) i ddarpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) ac sy’n rhoi effaith i adran 47 o Ddeddf 2021 sy’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd o bell. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r amser y mae’n ofynnol i rai dogfennau awdurdod lleol fod ar gael yn electronig o dan Ran 5A o Ddeddf 1972 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
Mae Rhan 5A o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â mynediad i gyfarfodydd a dogfennau awdurdodau lleol. Cymhwysir darpariaethau’r Rhan honno o’r Ddeddf honno mewn nifer o ddeddfiadau eraill at bwyllgorau penodol i awdurdodau lleol ac at fathau eraill o gorff.
Mae adran 47 o Ddeddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud a chyhoeddi trefniadau er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol drwy ddulliau o bell sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd o bell, os bodlonir amodau penodol.
Mae Atodlen 4 i Ddeddf 2021 yn diwygio, ymhlith darpariaethau eraill, Ran 5A o Ddeddf 1972 i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau cyfarfodydd awdurdod lleol penodol gael eu cyhoeddi’n electronig, i roi effaith i’r gofynion o dan adran 47 o Ddeddf 2021 ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae adran 50 o Ddeddf 2021 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth ar gyfer gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac ynghylch cynnal cyfarfodydd o’r fath, ac mewn cysylltiad â hynny.
Mae i’r Rheoliadau hyn bedair rhan. Mae Rhan 1 yn nodi’r teitl a’r darpariaethau cychwyn.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn nodi diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 sy’n ymwneud ag ystyriaeth yr awdurdodau lleol ar adroddiadau a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru er budd y cyhoedd. Mae’r diwygiadau’n darparu nad yw pwerau awdurdodau lleol o dan y Rhan 5A ddiwygiedig o Ddeddf 1972 i eithrio eitemau rhag eu cyhoeddi neu eu harchwilio’n electronig neu rhag hawliau mynediad yn gymwys i’r adroddiadau hynny. Maent hefyd yn darparu i’r hysbysiadau sydd i’w rhoi o gyfarfodydd awdurdodau lleol i ystyried yr adroddiadau hyn adlewyrchu’r gofynion ynglŷn â rhoi hysbysiadau’n electronig ac adlewyrchu y caniateir i gyfarfodydd gael eu cynnal drwy ddulliau o bell.
Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 49 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, sy’n ymwneud ag ystyriaeth yr awdurdodau lleol ar adroddiadau budd cyhoeddus gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar endidau sy’n gysylltiedig â’r awdurdodau hynny. Effaith y diwygiad yw nad yw pwerau’r awdurdodau lleol o dan y Rhan 5A ddiwygiedig o Ddeddf 1972 i eithrio eitemau rhag cael eu cyhoeddi neu eu harchwilio’n electronig neu rhag hawliau mynediad yn gymwys i adroddiadau budd cyhoeddus o’r fath.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i hepgor adran 56 a fewnosododd is-adran (1ZA) yn adran 232 o Ddeddf 1972. Mae’r is-adran honno wedi ei hepgor drwy ddarpariaeth a wnaed yn Atodlen 4 i Ddeddf 2021.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i ddarparu bod dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol y mae’n ofynnol eu cyhoeddi’n electronig i’w trin fel dogfennau y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31).
Mae Rhan 3 yn nodi diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 i roi effaith lawn i ddarpariaethau yn Neddf 2021 sy’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd o bell a rhoi hysbysiadau electronig drwy wneud darpariaeth i hysbysiadau cyfarfodydd, a gwysion iddynt, gael eu rhoi yn electronig.
Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001. Mae’r Rheoliadau hynny’n cymhwyso darpariaethau Rhan 5A o Ddeddf 1972 at gyfarfodydd pwyllgorau safonau awdurdodau lleol, gydag addasiadau. Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau hynny yn sicrhau bod y Rheoliadau hynny’n adlewyrchu’r newidiadau perthnasol a wnaed i ofynion Rhan 5A o Ddeddf 1972 gan Atodlen 4 i Ddeddf 2021.
Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005 er mwyn cymhwyso’r diwygiadau a wnaed i Ran 5A o Ddeddf 1972 sy’n ymwneud â hysbysiadau gwrandawiadau at wrandawiadau pwyllgorau trwyddedu awdurdodau lleol. Mae rheoliad 9 yn gwneud yr un peth mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
Mae rheoliad 10 yn pennu cyfnod o chwe blynedd pryd y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod dogfennau penodol yn dal ar gael i’r cyhoedd. Dogfennau yw’r rhain sy’n ymwneud â chyfarfodydd a gynhaliwyd, a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed, rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021 ac a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth dros dro o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â hysbysiadau neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd neu a anfonwyd cyn 1 Mai 2021 mewn perthynas â chyfarfodydd neu wrandawiadau a gynhaliwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gymdymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: