Search Legislation

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 356 (Cy. 107)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021

Gwnaed

18 Mawrth 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 50 a 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1) ac adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12)(2) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3).

Yn unol ag adran 174(4) a (5)(f) a (t) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union ar ôl i Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddod i rym yn llawn(4).

RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

2.—(1Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(5) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 24(6) (ystyried adroddiadau er budd y cyhoedd)—

(a)yn is-adran (5)(b)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “section 100B(2)”(7) rhodder “section 100BA(2)”(8);

(ii)yn is-baragraff (i), yn lle “open to inspection under section 100B1”(9) rhodder “published under section 100BA(1)”;

(iii)yn is-baragraff (ii) yn lle “section 100B(7)” rhodder “section 100BA(9)”;

(b)yn is-adran (7), yn lle “section 100C(1)(d)”(10) rhodder “section 100C(1B)(d)”(11).

(3Yn adran 26(12) (cyhoeddusrwydd ar gyfer cyfarfodydd o dan adran 25)—

(a)yn is-adran (3)—

(i)ym mharagraff (a) mewnosoder ar y diwedd “(but where the meeting is to be held by a body mentioned in subsection (3A) through remote means only, there is no need for the notice to state the place of the meeting)”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)in the case of a meeting held through remote means by a body mentioned in subsection (3A), also gives details of how to access the meeting;;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A) The bodies referred to in subsection (3)(a) and (aa) are—

(a)a local authority in Wales;

(b)a committee of a local authority in Wales (including a joint committee of two or more local authorities in Wales);

(c)a National Park authority for a National Park in Wales;

(d)a fire and rescue authority in Wales constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 (c. 21)(13) or a scheme to which section 4 of that Act applies.

(3B) In subsection (3)(a) and (aa) the references to a meeting of a body held through remote means are to a meeting held by means of equipment or other facility which enables persons who are not in the same place to speak to and be heard by each other (whether or not the equipment or facility enables those persons to see and be seen by each other).

(c)yn is-adran (6)—

(i)ar ôl “availability for inspection” mewnosoder “and publication”;

(ii)ar ôl “are” mewnosoder “published electronically or”.

Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009

3.  Yn Neddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009(14), yn adran 49 (awdurdod lleol yn ystyried adroddiad)—

(a)yn is-adran (8)(b)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i) yn lle “section 100B(2)” rhodder “section 100BA(2)”;

(ii)yn is-baragraff (i) yn lle “open to inspection under section 100B(1)” rhodder “published under section 100BA(1)”;

(iii)yn is-baragraff (ii) yn lle “section 100B(7)” rhodder “section 100BA(9)”;

(b)yn is-adran (9), yn lle “section 100C(1)(d)” rhodder “section 100C(1B)(d)”.

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

4.  Yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(15), hepgorer adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig)(16).

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

5.—(1Mae adran 49 (hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Daw’r testun presennol yn is-adran (1).

(3Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(2) Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.

(3) Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995

6.—(1Mae paragraff 6(17) o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(18) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (2)(a)—

(a)hepgorer “of the time and place”;

(b)yn lle “at the principal offices of the Authority” rhodder “electronically”;

(c)yn lle “be signed by” rhodder “state the names of”.

(3Yn is-baragraff (2)(b)(19)

(a)yn lle “signed” rhodder “authenticated”;

(b)yn lle “left at or sent by post to the usual place of residence of” rhodder “sent electronically to”;

(c)yn lle “a copy” rhodder “an electronic copy”(20).

(4Ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) The notice of the meeting given under sub-paragraph (2)(a) must—

(a)where the meeting or part of the meeting is open to the public and is held through remote means only, give details of the time of the meeting and how to access it;

(b)where the meeting or part of the meeting is open to the public and is held partly through remote means or is not held through remote means, give details of the time and place of the meeting and how to access it;

(c)where the meeting is not open to the public and is held partly through remote means or is not held through remote means, give details of the time and place of the meeting and the fact that it is not open to the public;

(d)where the meeting is not open to the public and is held through remote means only, give details of the time of the meeting, and the fact that it is being held through remote means only and is not open to the public.

(2B) In sub-paragraph (2)(b) “authenticated” means signed or otherwise authenticated in such manner as the proper officer of the Authority considers appropriate.

(2C) Every member of the Authority must specify an electronic address for the purpose of receiving a summons referred to in sub-paragraph (2)(b).

(2D) In this paragraph, references to a meeting of the Authority held through remote means are to a meeting held by means of any equipment or other facility which enables persons who are not in the same place to speak and be heard by each other (whether or not the equipment or facility enables those persons to see or be seen by each other).;

(5Yn is-baragraff (3)—

(i)yn lle “he” rhodder “that member”;

(ii)yn lle “him” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “that member”;

(iii)yn lle “other than his usual place of residence” rhodder “rather than electronically”;

(iv)yn lle “his” rhodder “that member’s”.

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

7.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 26(22) (darpariaethau cymwysadwy Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)—

(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “adran 100B” rhodder “adran 100BA”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae dyletswydd pwyllgor safonau, yn rhinwedd paragraff (1), i gyhoeddi unrhyw ddogfen yn electronig yn ddyletswydd i gyhoeddi’r ddogfen ar wefan yr awdurdod perthnasol (os oes un gan yr awdurdod hwnnw).;

(c)ym mharagraff (2) yn lle “is-adran (1) o adran 100B” rhodder “is-adran (1) o adran 100BA”;

(d)ym mharagraff (2A)(23)

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle “adrannau 100B” rhodder “adrannau 100BA”;

(bb)ar ôl “gyhoeddi” mewnosoder “yn electronig”;

(ii)yn is-baragraff (d), yn lle “gyhoeddi’r deunyddiau” rhodder “gyhoeddi’n electronig y deunyddiau”;

(e)hepgorer paragraff (3);

(f)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Yn is-adrannau (1)(c) a (2A)(b) o adran 100D, yn lle “offices of the council” rhodder “offices of the relevant authority;

(g)ym mharagraff (6), yn lle “is-adran (3) o adran 100H” rhodder “is-adrannau (3), (3A) a (6A) o adran 100H”(24);

(h)ym mharagraff (7), yn y testun a fewnosodir gan is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a gweler adran 100J(3YA), (3ZA)(b) a (3ZAA) uchod”(25).

(3Yn rheoliad 27(26) (darpariaethau cymwysadwy Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Pan fo—

(a)yn ofynnol, yn rhinwedd adran 100A o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd gan reoliad 26, i awdurdod lleol gyhoeddi’n electronig hysbysiad sy’n ymwneud ag un o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau, a

(b)bod gan un neu fwy o’r cynghorau cymuned a leolir yn ardal yr awdurdod lleol wefan,

caiff yr awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar un neu fwy o’r gwefannau hynny (yn ogystal ag ar ei wefan ef ei hun).;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo—

(a)yn ofynnol, yn rhinwedd adran 100B o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd gan reoliad 26, i awdurdod lleol gyhoeddi’n electronig agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd ei bwyllgor safonau, a

(b)bod gan un neu fwy o’r cynghorau cymuned a leolir yn ardal yr awdurdod lleol wefan,

caiff yr awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu i’r agendâu neu’r adroddiadau gael eu cyhoeddi ar un neu fwy o’r gwefannau hynny (yn ogystal ag ar ei wefan ef ei hun).;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo—

(a)yn ofynnol, yn rhinwedd adran 100C o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd gan reoliad 26, i awdurdod lleol gyhoeddi’n electronig gofnodion ei bwyllgor safonau neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd ei bwyllgor safonau, a

(b)bod gan un neu fwy o’r cynghorau cymuned a leolir yn ardal yr awdurdod lleol wefan,

caiff yr awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu i’r cofnodion a’r dogfennau hynny gael eu cyhoeddi ar un neu fwy o’r gwefannau hynny (yn ogystal ag ar ei wefan ef ei hun).

Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005

8.—(1Mae Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) In these Regulations, a reference to a hearing of an authority in Wales held through remote means is to a hearing held by means of any equipment or other facility which enables persons who are not in the same place to speak and be heard by each other (whether or not the equipment or facility enables those persons to see or be seen by each other).

(3Yn rheoliad 4 (y cyfnod amser y mae gwrandawiad i’w gynnal o’i fewn)—

(a)daw’r testun presennol yn baragraff (1);

(b)yn y paragraff hwnnw, ar y dechrau, yn lle “The authority” rhodder “An authority in England”;

(c)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(2) An authority in Wales must—

(a)in the case of a hearing which is held through remote means only, arrange for the date and time at which the hearing is to be held in accordance with regulation 5;

(b)in the case of a hearing which is held partly through remote means or not through remote means, arrange for the date on which and the place and time at which a hearing is to held in accordance with regulation 5;

(2A) In either case mentioned in paragraph (2) an authority in Wales must give a notice of hearing in accordance with regulations 6(1A) and 7.

(4Yn rheoliad 6 (hysbysiad gwrandawiad)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “the authority” rhodder “an authority in England”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) In the case of hearings under the provisions listed in column 1 of the table in Schedule 2, an authority in Wales must, in accordance with the following provisions of this regulation, give to the persons listed in column 2 of the table a notice which—

(a)where the hearing is held through remote means only, gives details of the time of the hearing and how to access it, or

(b)where the hearing is held partly through remote means or not through remote means, gives details of the time and place of the hearing and how to access it.

(5Yn rheoliad 12 (pŵer i ymestyn amser etc.)—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl “an authority” mewnosoder “in England”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Where an authority in Wales has adjourned a hearing to a specified date, it must forthwith notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the date and time to which the hearing has been adjourned and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not through remote means, of the date, time and place to which the hearing has been adjourned and how to access it.

(c)ym mharagraff (3), ar ôl “an authority” mewnosoder “in England”;

(d)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Where an authority in Wales has arranged for a hearing to be held on a specified additional date, it must forthwith notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the additional date on which and time at which the hearing is to be held and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not through remote means, of the additional date on which and time and place at which the hearing is be held and how to access it.

(6Yn rheoliad 20 (methiant partïon i fynychu’r gwrandawiad)—

(a)ym mharagraff (4) yn lle “the authority” rhodder “an authority in England”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Where an authority in Wales adjourns the hearing to a specified date it must forthwith notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the date and time to which the hearing has been adjourned and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not through remote means, of the date, time and place to which the hearing has been adjourned and how to access it.

Rheoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007

9.—(1Mae Rheoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) In these Regulations, a reference to a hearing of a relevant committee in Wales held through remote means is to a hearing held by means of any equipment or other facility which enables persons who are not in the same place to speak and be heard by each other (whether or not the equipment or facility enables those persons to see or be seen by each other).

(3Yn rheoliad 5 (hysbysiad gwrandawiad)—

(a)ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “committee” mewnosoder “in England”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) A relevant committee in Wales must ensure that the notice referred to in paragraph (1)—

(a)where the hearing is held through remote means only, gives details of the date and time of the hearing and how to access it;

(b)where the hearing is held partly through remote means or is not held through remote means, gives details of the date, time and place of the hearing and how to access it;

(c)states that the relevant committee will make available the documents listed in the relevant entry in column 3 of the table in the Schedule to the following persons if those persons request them—

(i)any person who has made representations (unless the relevant committee considers that the representations are vexatious, frivolous or will certainly not influence the determination of the application), and

(ii)in the case of an application under section 188 for the transfer of a premises licence, the licensee,

(d)is sent so that, in the ordinary course of events, it is received no later than 10 working days before the first day on which the hearing is to be held (as specified in the notice).

(4Yn rheoliad 7 (pŵer i ohirio)—

(a)ym mharagraff (3), ar ôl “a relevant committee” mewnosoder “in England”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Where a relevant committee in Wales has adjourned a hearing to a specified date, it must, as soon as reasonably practicable, notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the new date and time for the hearing and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not held through remote means, of the new date, time and place for the hearing and how to access it.

(c)ym mharagraff (4) ar ôl “a relevant committee” mewnosoder “in England”;

(d)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Where a relevant committee in Wales has arranged for the hearing to be held on a specified additional date it must, as soon as reasonably practicable, notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the additional date and time of the hearing and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not held through remote means, of the additional date, time and place of the hearing and how to access it.

(5Yn rheoliad 10 (methiant partïon i fynychu’r gwrandawiad)—

(a)ym mharagraff (4) yn lle “the relevant committee” rhodder “a relevant committee in England”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Where, under this regulation, a relevant committee in Wales adjourns the hearing to a specified date it must, as soon as reasonably practicable, notify the parties—

(a)in the case of a hearing held through remote means only, of the date and time to which the hearing has been adjourned and how to access it; or

(b)in the case of a hearing held partly through remote means or not held through remote means, of the date, time and place to which the hearing has been adjourned and how to access it.

RHAN 4Gofynion o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 i ddogfennau barhau i fod ar gael yn electronig a darpariaethau trosiannol

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddogfennau sy’n ymwneud â chyfarfod a gynhaliwyd, neu benderfyniad gweithrediaeth a wnaed, ar neu ar ôl 22 Ebrill 2020 a chyn diwedd 30 Ebrill 2021 yr oedd yn ofynnol iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd—

(a)o dan adran 100C o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd gan reoliad 21(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020(29), neu

(b)o dan reoliad 13 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(30) fel y’u diwygiwyd gan reoliad 23(8)(e)(31) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

(2Rhaid i ddogfennau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe blynedd sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod neu benderfyniad y weithrediaeth i ben.

Darpariaeth drosiannol

11.—(1Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a gyhoeddwyd neu a anfonwyd cyn 1 Mai 2021 yn unol â’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â chyfarfod neu wrandawiad a gynhaliwyd ar neu ar ôl 1 Mai 2021, i’w trin fel pe baent wedi eu cyhoeddi neu wedi eu hanfon yn unol â’r darpariaethau hynny fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

(2Dyma’r darpariaethau—

(a)adrannau 24(5) a 26(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;

(b)paragraff 6(2) a (3) o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;

(c)rheoliadau 26(1), (2A) a (4) a 27(1) i (3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;

(d)rheoliadau 4, 6, 12 ac 20 o Reoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005;

(e)rheoliadau 5, 7 a 10 o Reoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i ddiwygiadau a wnaed gan Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) i ddarpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) ac sy’n rhoi effaith i adran 47 o Ddeddf 2021 sy’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd o bell. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r amser y mae’n ofynnol i rai dogfennau awdurdod lleol fod ar gael yn electronig o dan Ran 5A o Ddeddf 1972 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

Mae Rhan 5A o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â mynediad i gyfarfodydd a dogfennau awdurdodau lleol. Cymhwysir darpariaethau’r Rhan honno o’r Ddeddf honno mewn nifer o ddeddfiadau eraill at bwyllgorau penodol i awdurdodau lleol ac at fathau eraill o gorff.

Mae adran 47 o Ddeddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud a chyhoeddi trefniadau er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol drwy ddulliau o bell sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd o bell, os bodlonir amodau penodol.

Mae Atodlen 4 i Ddeddf 2021 yn diwygio, ymhlith darpariaethau eraill, Ran 5A o Ddeddf 1972 i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau cyfarfodydd awdurdod lleol penodol gael eu cyhoeddi’n electronig, i roi effaith i’r gofynion o dan adran 47 o Ddeddf 2021 ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae adran 50 o Ddeddf 2021 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth ar gyfer gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac ynghylch cynnal cyfarfodydd o’r fath, ac mewn cysylltiad â hynny.

Mae i’r Rheoliadau hyn bedair rhan. Mae Rhan 1 yn nodi’r teitl a’r darpariaethau cychwyn.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn nodi diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 sy’n ymwneud ag ystyriaeth yr awdurdodau lleol ar adroddiadau a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru er budd y cyhoedd. Mae’r diwygiadau’n darparu nad yw pwerau awdurdodau lleol o dan y Rhan 5A ddiwygiedig o Ddeddf 1972 i eithrio eitemau rhag eu cyhoeddi neu eu harchwilio’n electronig neu rhag hawliau mynediad yn gymwys i’r adroddiadau hynny. Maent hefyd yn darparu i’r hysbysiadau sydd i’w rhoi o gyfarfodydd awdurdodau lleol i ystyried yr adroddiadau hyn adlewyrchu’r gofynion ynglŷn â rhoi hysbysiadau’n electronig ac adlewyrchu y caniateir i gyfarfodydd gael eu cynnal drwy ddulliau o bell.

Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 49 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, sy’n ymwneud ag ystyriaeth yr awdurdodau lleol ar adroddiadau budd cyhoeddus gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar endidau sy’n gysylltiedig â’r awdurdodau hynny. Effaith y diwygiad yw nad yw pwerau’r awdurdodau lleol o dan y Rhan 5A ddiwygiedig o Ddeddf 1972 i eithrio eitemau rhag cael eu cyhoeddi neu eu harchwilio’n electronig neu rhag hawliau mynediad yn gymwys i adroddiadau budd cyhoeddus o’r fath.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i hepgor adran 56 a fewnosododd is-adran (1ZA) yn adran 232 o Ddeddf 1972. Mae’r is-adran honno wedi ei hepgor drwy ddarpariaeth a wnaed yn Atodlen 4 i Ddeddf 2021.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i ddarparu bod dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol y mae’n ofynnol eu cyhoeddi’n electronig i’w trin fel dogfennau y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31).

Mae Rhan 3 yn nodi diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 i roi effaith lawn i ddarpariaethau yn Neddf 2021 sy’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd o bell a rhoi hysbysiadau electronig drwy wneud darpariaeth i hysbysiadau cyfarfodydd, a gwysion iddynt, gael eu rhoi yn electronig.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001. Mae’r Rheoliadau hynny’n cymhwyso darpariaethau Rhan 5A o Ddeddf 1972 at gyfarfodydd pwyllgorau safonau awdurdodau lleol, gydag addasiadau. Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau hynny yn sicrhau bod y Rheoliadau hynny’n adlewyrchu’r newidiadau perthnasol a wnaed i ofynion Rhan 5A o Ddeddf 1972 gan Atodlen 4 i Ddeddf 2021.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005 er mwyn cymhwyso’r diwygiadau a wnaed i Ran 5A o Ddeddf 1972 sy’n ymwneud â hysbysiadau gwrandawiadau at wrandawiadau pwyllgorau trwyddedu awdurdodau lleol. Mae rheoliad 9 yn gwneud yr un peth mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

Mae rheoliad 10 yn pennu cyfnod o chwe blynedd pryd y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod dogfennau penodol yn dal ar gael i’r cyhoedd. Dogfennau yw’r rhain sy’n ymwneud â chyfarfodydd a gynhaliwyd, a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed, rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021 ac a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth dros dro o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â hysbysiadau neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd neu a anfonwyd cyn 1 Mai 2021 mewn perthynas â chyfarfodydd neu wrandawiadau a gynhaliwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gymdymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2021 dsc 1. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) o ran darpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(2)

Rhoddodd paragraff 28 o Atodlen 3 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State” yn adran 22.

(4)

Daeth paragraff 17(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) i rym ar 21 Ionawr 2021. Daeth gweddill Atodlen 4 i Ddeddf 2021 i rym ar 1 Mai 2021 drwy orchymyn cychwyn a wnaed yn unol ag adran 175(7) o’r Ddeddf honno.

(6)

Ceir diwygiadau i adran 24 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Addaswyd adran 24 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan baragraff 3(a) o’r Atodlen i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/442 (Cy. 100)). Mewnosodwyd yr Atodlen honno yn O.S. 2020/442 (Cy. 100) gan O.S. 2020/653 (Cy. 150).

(7)

Mewnosodwyd Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 (p. 43), adran 1. Addaswyd adran 100B o Ddeddf 1972 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan O.S. 2020/442 (Cy. 100), paragraff 21(3).

(8)

Mewnosodwyd adran 100BA yn Rhan 5A o Ddeddf 1972 gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 7.

(9)

Diwygiwyd adran 100B(1) gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 6(2).

(10)

Addaswyd adran 100C dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan O.S. 2020/442 (Cy. 100), rheoliad 21(4). Diwygiwyd adran 100C(1) gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 8(2).

(11)

Mewnosodwyd adran 100C(1B)(d) yn Neddf 1972 gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 8(3).

(12)

Addaswyd adran 26 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan baragraff 3(b) o’r Atodlen i O.S. 2020/442 (Cy. 100).

(14)

2009 p. 20. Nid yw adran 49 wedi ei chychwyn.

(16)

Mewnosododd adran 56 is-adran (1ZA) newydd yn ymwneud â hysbysiadau a roddir gan gynghorau cymuned yn adran 232 o Ddeddf 1972, a hepgorir gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 17(3).

(17)

Addaswyd paragraff 6 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau parciau cenedlaethol a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan O.S. 2020/442 (Cy. 100), rheoliad 18.

(18)

O.S. 1995/2803. Ceir diwygiadau i Atodlen 3 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(19)

Diwygiwyd paragraff 6(2)(b) gan baragraff 52 o Atodlen 4 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).

(20)

Mae’r swyddogaeth o dderbyn copi o’r wŷs i gyfarfod o awdurdod parc cenedlaethol o dan baragraff 6(2)(b) wedi ei rhoi i Weinidogion Cymru. Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), a pharagraffau 1(2) a (3), a 2(1) a (2) o Atodlen 7 iddi, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwnnw at un o swyddogaethau un o Weinidogion y Goron o dan ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw un o swyddogaethau’r Gweinidog hwnnw sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw gynllun, rheoliadau, rheolau, gorchymyn, is-ddeddfau neu offeryn arall sy’n cael effaith o dan y deddfiad hwnnw neu mewn perthynas ag ef, ac mae’r pŵer i roi swyddogaethau i’r Gweinidog hwnnw gan unrhyw gynllun, rheoliadau, rheolau, gorchymyn, is-ddeddfau neu offeryn arall o’r fath yn cael effaith fel pŵer i roi swyddogaethau o’r fath i’r Cynulliad. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy erbyn hyn gan Weinidogion Cymru.

(22)

Addaswyd rheoliad 26 dros dro gan baragraff 2(a) o’r Atodlen i O.S. 2020/442 (Cy. 100) mewn perthynas â chyfarfodydd pwyllgorau safonau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021.

(23)

Mewnosodwyd paragraff (2A) gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85 (Cy. 39)), rheoliad 2(16).

(24)

Mewnosodwyd is-adran (6A) o adran 100H gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 10(8). Addaswyd adran 100H dros dro gan reoliad 21(8) o O.S. 2020/442 (Cy. 100) mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021.

(25)

Mewnosodwyd adran 100J(3YA) gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 231(5). Mewnosodwyd adran 100J(3ZA) gan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17), Atodlen 8, paragraff 15(4). Mewnosodwyd adran 100J(3ZAA) gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, Atodlen 22, paragraff 3(4).

(26)

Addaswyd rheoliad 27 dros dro gan baragraff 2(b) o’r Atodlen i O.S. 2020/442 (Cy. 100) mewn perthynas â chyfarfodydd pwyllgorau safonau a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021.

(27)

O.S. 2005/44. Mae adran 50(4) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Rheoliadau o dan yr adran honno ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(28)

O.S. 2007/173. Mae adran 50(4) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Rheoliadau o dan yr adran honno ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad. Rhoddwyd y diffiniad o “relevant committee” yn lle “licensing committee” gan reoliad 16 o Reoliadau’r Iaith Gymraeg (Ffurflenni Hapchwarae a Thrwyddedu) 2010 (O.S. 2010/2440).

(29)

O.S. 2020/442 (Cy. 100)), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/653 (Cy. 150). Addaswyd adran 100C o Ddeddf 1972 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 21(4) o O.S. 2020/442 (Cy. 100)) fel bod adran 100C i’w darllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, is-adran (7) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid o dan adrannau 100B a 100C o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd, barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd. Diwygiwyd adran 100C ymhellach gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 8. Ceir diwygiadau eraill i’r adran nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(31)

Addaswyd rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd gweithrediaethau awdurdodau lleol a gynhaliwyd a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 23(8)(e) o O.S. 2020/442 (Cy. 100) fel bod rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith darpariaethau eraill, baragraff (5A) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid yn electronig o dan reoliad 8 o O.S. 2001/2290, fel y’i haddaswyd, gael ei gadw gan yr awdurdod lleol a pharhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources