- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
18 Mawrth 2021
Yn dod i rym
19 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3)(1) o Ddeddf Tai 1996(2) a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3).
Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(4).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2021.
2. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (f);
(b)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(c)ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(d)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—
“(i)Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo(6).”.
4. Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);
(b)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (h);
(c)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(d)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—
“(j)“Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo.”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (2014 dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.
Mae Dosbarth I yn gymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddynt i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo ar y sail eu bod yn berson diwladwriaeth.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath: Dosbarth J – personau diwladwriaeth (sy’n cyfateb i Ddosbarth I a fewnosodir gan reoliad 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir gael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a’r cofnod mewn perthynas â’r Ddeddf honno yn Atodlen 1, fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1996 p. 52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002; diwygiwyd is-adran (3) gan adran 146(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
O.S. 2014/2603 (Cy. 257) (fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan O.S. 2015/1272, erthygl 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), 2019/1041 (Cy. 183), 2019/1149 (Cy. 199), 2020/1209, 2020/1309 a 2020/1372.
Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’u diwygiwyd. Cyflwynwyd y rheolau mewn perthynas â phersonau diwladwriaeth yn 2013 gan y datganiad o newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC1039 a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 14 Mawrth 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: