Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 353 (Cy. 105)

Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

18 Mawrth 2021

Yn dod i rym

19 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 160A(3)(1) o Ddeddf Tai 1996(2) a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3).

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(4).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2021.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

2.  Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 3

3.  Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (f);

(b)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(c)ar ddiwedd is-baragraff (h), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(d)ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—

(i)Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo(6)..

Diwygio rheoliad 5

4.  Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (g);

(b)hepgorer “ac” ar ôl is-baragraff (h);

(c)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(d)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)“Dosbarth J – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddo i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo..

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (2014 dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth I yn gymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig iddynt i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 405 o’r Rheolau Mewnfudo ar y sail eu bod yn berson diwladwriaeth.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath: Dosbarth J – personau diwladwriaeth (sy’n cyfateb i Ddosbarth I a fewnosodir gan reoliad 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir gael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a’r cofnod mewn perthynas â’r Ddeddf honno yn Atodlen 1, fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1996 p. 52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002; diwygiwyd is-adran (3) gan adran 146(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

(4)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(5)

O.S. 2014/2603 (Cy. 257) (fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan O.S. 2015/1272, erthygl 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), 2019/1041 (Cy. 183), 2019/1149 (Cy. 199), 2020/1209, 2020/1309 a 2020/1372.

(6)

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’u diwygiwyd. Cyflwynwyd y rheolau mewn perthynas â phersonau diwladwriaeth yn 2013 gan y datganiad o newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC1039 a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 14 Mawrth 2013.