- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-orllewin gael eu cadeirio gan—
(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu
(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.
2.—(1) Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin—
(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a
(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Gaerfyrddin gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).
(2) Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-orllewin—
(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu
(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.
(3) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.
(4) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—
(a)yr aelodau cyngor, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.
(5) Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.
(6) Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.
(7) Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.
(8) Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Gaerfyrddin.
3. Rhaid i CBC y De-orllewin gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.
4.—(1) Caiff CBC y De-orllewin gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.
(2) Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-orllewin gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
5. Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin onid yw—
(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(i)rheoliad 17, neu
(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a
(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin—
(a)ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,
(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,
(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a
(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.
(2) Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.
(3) Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-orllewin fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
(2) Ond ni chaiff CBC y De-orllewin fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)y paragraff hwn.
(3) Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-orllewin y mae’n gymwys iddynt;
(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—
(a)aelodau CBC y De-orllewin, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.
(5) Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.
8.—(1) Rhaid i CBC y De-orllewin wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: