- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) (“Deddf 2000”) yn gwneud darpariaeth am drafnidiaeth yng Nghymru. Yn benodol mae’n gwneud darpariaeth am Awdurdodau Trafnidiaeth Lleol yng Nghymru, sydd wedi eu diffinio at bwrpas Rhan 2 fel cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol.
Mae adran 108 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Trafnidiaeth Lleol lunio cynllun trafnidiaeth lleol sy’n hyrwyddo trafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd yn ei ardal.
Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol hynny yng Nghymru a bennir yn y Rheoliadau sy’n eu sefydlu. Caniateir iddynt arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau penodedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o ran trafnidiaeth.
Mae’r rheoliadau hyn yn addasu Deddf 2000 mewn achosion pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei sefydlu drwy reoliadau a’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108 o Ddeddf 2000 wedi ei rhoi i’r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae’r addasiadau’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer ei ardal. Fodd bynnag, rôl pob Awdurdod Trafnidiaeth Lleol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yw rhoi’r polisïau ar waith.
Mae’r swyddogaethau o dan adran 108 wedi eu rhoi i 4 cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir o dan y Rheoliadau a ganlyn—
(a)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 (O.S. 2021/343) (Cy. 97);
(b)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021 (O.S. 2021/352) (Cy. 104);
(c)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021 (O.S. 2021/342) (Cy. 96);
(d)Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021 (O.S. 2021/339) (Cy. 93).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: