Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 327 (Cy. 85)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 83(2), 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau yma gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(k) ac (l) o’r Ddeddf ac fe’u cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw person a benodwyd i gyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yw person sydd wedi ei gyfethol gan aelodau’r cyngor i gymryd rhan yng ngweithgarwch cyd-bwyllgor corfforedig;

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 (dsc 1);

mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021;

mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 68 o Ddeddf 2021;

mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ardal cyd-bwyllgor corfforedig yn gyfeiriadau at yr ardal sy’n ffurfio—

(a)prif ardaloedd y prif gynghorau a oedd wedi gwneud cais cyd-bwyllgor o dan adran 72(1) o Ddeddf 2021, neu

(b)y prif ardaloedd a bennwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 74(1) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1Safonau ymddygiad

Ymddygiad aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgor corfforedig

3.  Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys mewn perthynas ag aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.

RHAN 2Cyllid a chyfrifon

Cyllid a chyfrifon

4.  Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyllid a chyfrifon cyd-bwyllgorau corfforedig.

RHAN 3Diwygiadau cyffredinol

Diwygiadau cyffredinol sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig

5.  Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â statws cyd-bwyllgor corfforedig fel corff cyhoeddus.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

Rheoliad 3

ATODLEN 1Safonau ymddygiad

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod perthnasol i aelodau a chyfranogwyr cyfetholedig

1.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys i berson—

(a)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn gyfranogwyr cyfetholedig,

o gyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)sydd—

(i)yn aelod, neu

(ii)yn aelod cyfetholedig,

o awdurdod perthnasol.

(2At ddibenion cod ymddygiad yr awdurdod perthnasol, mae person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei benodi gan yr awdurdod perthnasol i wasanaethu ar y cyd-bwyllgor corfforedig.

(3Pan fo’n ofynnol, yn rhinwedd is-baragraff (2), i berson y mae’r is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo, i’r graddau y mae’n gweithredu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig, i gydymffurfio â’r cod ymddygiad enghreifftiol (“y cod”), mae is-baragraffau (4) a (5) yn gymwys.

(4Mae cyfeiriadau at “awdurdod” person yn Rhan 3 o’r cod i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r person yn gweithredu ar ei ran.

(5Rhaid i berson gofrestru unrhyw fuddiant personol sydd ganddo ym musnes y cyd-bwyllgor corfforedig yng nghofrestr buddiannau aelodau ei awdurdod perthnasol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog monitro’r awdurdod.

Cymhwyso cod ymddygiad awdurdod i gyflogeion

2.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys oni bai—

(a)bod darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2Mae Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(2) (“Gorchymyn 2001”) yn gymwys i gyflogai cyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogai awdurdod perthnasol.

(3Yng Ngorchymyn 2001, fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-baragraff (2), mae cyfeiriad at awdurdod cyflogai i’w ddarllen fel cyfeiriad at gyd-bwyllgor corfforedig cyflogai.

Dehongli Atodlen 1

3.  Yn yr Atodlen hon—

(a)mae cyfeiriadau at “Deddf 2000” yn gyfeiriadau at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3);

(b)mae cyfeiriadau at y “cod ymddygiad enghreifftiol” yn gyfeiriadau at y cod ymddygiad enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008(4);

(c)ystyr “cod ymddygiad” yw’r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan awdurdod perthnasol o dan adran 51 o Ddeddf 2000;

(d)mae i “aelod cyfetholedig” yr ystyr a roddir i “co-opted member” gan adran 49 o Ddeddf 2000;

(e)mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 49 o Ddeddf 2000.

Rheoliad 4

ATODLEN 2Cyllid a chyfrifon

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003

1.  Yn adran 23 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(5) (ystyr “local authority” (“awdurdod lleol”)), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11) This Part applies in relation to a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 as it applies in relation to a local authority.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003

2.  Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003(6) (dehongli), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “Regulations” mewnosoder “and includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 in so far as Part 1 of the Local Government Act 2003 applies to corporate joint committees by virtue of section 23(11) of the 2003 Act”.

Rheoliad 5

ATODLEN 3Diwygiadau cyffredinol

Diwygio Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970

1.  Yn adran 1(4) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(7) (cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “any joint authority established by Part VI of the Local Government Act 1985,” mewnosoder “any corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021,”.

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010

2.  Yn adran 59(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(8), ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

(ja)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;.

Diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

3.  Ym mharagraff 1(4) o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(9), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys i aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad y mae rhaid i awdurdodau perthnasol ei fabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22). Mae’n darparu, pan fo aelod neu gyfranogwr cyfetholedig cyd-bwyllgor corfforedig yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, fod cod ymddygiad ei awdurdod yn gymwys iddo fel pe bai wedi ei benodi i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan ei awdurdod.

Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad ar gyfer cyflogeion awdurdodau perthnasol sydd hefyd wedi ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae’n darparu bod y cod hwn yn gymwys i gyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogeion awdurdodau perthnasol o fewn yr ystyr a roddir gan y Ddeddf honno.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifon a chyllid cyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i awdurdodau lleol.

Mae Rhan 1 o Ddeddf 2003 yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau rheoli ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf ac arferion cyfrifyddu.

Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y maent yn gymwys i awdurdodau lleol. Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaeth bellach, fanylach, ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau cyffredinol i ddeddfiadau eraill.

Mae paragraff 1 o Atodlen 3 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39) gyda’r effaith y caiff cyd-bwyllgorau corfforedig ymrwymo i gytundebau penodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gydag awdurdod arall y mae’r adran honno yn gymwys iddo mewn perthynas â gweithrediadau masnachu.

Mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn diwygio adran 59 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) gyda’r effaith bod y mesurau diogelu rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a nodir yn adran 58 o’r Ddeddf honno yn gymwys i aelod o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n cyflawni busnes swyddogol fel aelod o’r fath.

Mae paragraff 3 o Atodlen 3 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae’r paragraff hwnnw yn darparu nad oes unrhyw dreth trafodiadau tir i’w chodi ar drafodiad tir rhwng cyrff cyhoeddus sy’n deillio o ganlyniad i ad-drefnu y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth. Mae’r diwygiad yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwnnw rhag treth.

Mae’r Rheoliadau yma yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(5)

2003 p. 26. 2003 p. 26. Diwygiwyd adran 23 gan baragraff 100 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21); paragraff 10(3)(e) o Atodlen 2 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36); paragraff 117(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20); paragraff 317 o Atodlen 16 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13); paragraff 6(32)(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20); adrannau 9(4) a 25(2) o Ddeddf Datganoli Dinasoedd a Llywodraeth Leol 2016 (p. 1); paragraff 83(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3); a chan O.S. 2005/886.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources