- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Gosodwyd gebron Senedd Cymru
4 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 4(1)(f) o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012(2).
2.—(1) Mae rheoliad 2 (dehongli) oʼr prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “prif swyddogion”, ar y diwedd mewnosoder “, a phrif swyddog neu brif weithredwr pob Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf”.
(3) Yn y diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig”, ar y diwedd mewnosoder “ac, mewn perthynas â phrif swyddog Awdurdod Iechyd Arbennig, swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
3.—(1) Mae rheoliad 7 (gofynion cymhwystra i aelodau’r pwyllgor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2), yn lle “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol” rhodder “Fwrdd Iechyd Lleol, i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu fel prif swyddog neu brif weithredwr i Awdurdod Iechyd Arbennig”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
(4) Ym mharagraff (4), yn lle “neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog” rhodder “, fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 (“y prif Reoliadau”), yn benodol rheoliadau 2 a 7 o’r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “prif swyddogion” yn y prif Reoliadau i gynnwys prif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig yng Nghymru. Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “cynrychiolydd enwebedig” yn y prif Reoliadau i gynnwys swyddog enwebedig i bob Awdurdod Iechyd Arbennig.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(2) gyfeiriad at brif swyddog neu brif weithredwr Awdurdod Iechyd Arbennig, ac yn rheoliad 7(3) a (4) gyfeiriad at swyddog-aelod o Awdurdod Iechyd Arbennig y prif swyddog neu’r prif weithredwr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2012/1261 (Cy. 156), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: