Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Mewnosod Atodlen 5 yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol)

14.  Ar ôl Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig) mewnosoder—

Rheoliad 10(4)(m)

ATODLEN 5Eithriadau sectorol

1.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a

(b)a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, neu ar ei ran,

pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—

(i)archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a gweithgareddau amnewid asedau;

(ii)monitro, samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(1), Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(2), Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016(3) neu Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016(4);

(b)ystyr “trwyddedai carthffosiaeth” yw person sy’n ddeiliad trwydded garthffosiaeth o dan adran 17BA o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5);

(c)mae i “gwasanaethau carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage services” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(6);

(d)ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr carthffosiaeth o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(7);

(e)mae i “trwyddedai cyflenwi dŵr” yr ystyr a roddir i “water supply licensee” yn adrannau 17A(7) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(8);

(f)ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

2.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—

(a)Asiantaeth yr Amgylchedd(9);

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru(10);

(c)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;

(d)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.

(2) Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(11).

3.  Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—

(a)yr Awdurdod Glo(12);

(b)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

4.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig—

(i)â gorsaf gynhyrchu,

(ii)â chydgysylltydd trydan,

(iii)â rhwydwaith gwres ardal fel y diffinnir “district heat network” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014(13),

(iv)â gwresogi cymunedol fel y diffinnir “communal heating” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014,

(v)â systemau glanhau awtomataidd ar falast a systemau ailosod traciau ar rwydwaith, neu

(vi)â chomisiynu, cynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau diwydiannol i’w defnyddio ar rwydwaith, neu

(b)a gyflawnir gan, ar gyfer, neu ar ran—

(i)gweithredwr y system genedlaethol,

(ii)person sydd â thrwydded drawsyrru,

(iii)person sydd â thrwydded ddosbarthu,

(iv)person sydd â thrwydded o dan adrannau 7 a 7ZA o Ddeddf Nwy 1986(14),

(v)cyfleuster mewnforio neu allforio nwy naturiol hylifedig fel y diffinnir “LNG import or export facility” yn adran 48 o Ddeddf Nwy 1986(15), neu

(vi)person sydd â thrwydded rwydwaith o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(16),

pan fo’r teithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “trwydded ddosbarthu” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(c) o Ddeddf Trydan 1989(17);

(b)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys comisiynu, archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a gweithgareddau amnewid asedau;

(c)ystyr “gweithredwr y system genedlaethol” yw’r person sy’n gweithredu system drawsyrru genedlaethol Prydain Fawr;

(d)mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(18);

(e)ystyr “trwydded drawsyrru” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(b) o Ddeddf Trydan 1989;

(f)mae i “cydgysylltydd trydan”, “gorsaf gynhyrchu” a “system drawsyrru” yr ystyron a roddir i “electricity interconnector”, “generating station” a “transmission system” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(19).

5.(1) Person sydd—

(a)yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn cysylltiad ag ef,

(b)yn ymatebydd argyfwng niwclear, neu

(c)yn arolygydd asiantaeth,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “arolygydd asiantaeth” yr ystyr a roddir i “agency inspector” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Niwclear 2000(20);

(b)ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw;

(d)ystyr “personél niwclear” yw—

(i)gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)cyflogai i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear(21);

(e)mae i “trwydded safle niwclear” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence” yn adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(22).

6.  Arolygydd o’r Sefydliad Gwahardd Arfau Cemegol, o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” gan adran 24(e) o Ddeddf Arfau Cemegol 1996(23), sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion arolygiad.

7.(1) Person sydd—

(a)yn cyflawni swyddogaeth hanfodol ar safle gofod,

(b)yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu

(c)a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “safle gofod” yr ystyr a roddir i “space site” ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018(24);

(b)ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit;

(c)mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018;

(d)ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.

8.(1) Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’r peiriannydd neu’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol at ddiben sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd, ond heb ei gyfyngu i hynny);

(b)ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau fel sy’n ofynnol gan y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd(25).

9.(1) Person sy’n ymgymryd â gweithgareddau gweithredu, cynnal a chadw neu ddiogelwch cyfleuster yn y sector olew is sydd â chapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli—

(a)pan fo’r cyfleuster yn y sector olew is yn ymgymryd â gweithgaredd penodedig a gyflawnir yn y Deyrnas Unedig yng nghwrs busnes, ac yn cyfrannu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at gyflenwi tanwyddau sy’n seiliedig ar olew crai i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig neu bersonau sy’n cynnal busnes yn y Deyrnas Unedig, a

(b)pan fo angen y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn parhau i weithredu’n ddiogel,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae gan gyfleuster gapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli ar unrhyw adeg os cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn galendr flaenorol at ddibenion gweithgareddau’r sector olew is mewn perthynas â mwy na’r nifer hwnnw o dunelli o olew;

(b)“gweithgareddau penodedig” yw—

(i)storio olew;

(ii)trafod olew;

(iii)cludo olew ar y môr neu ar ddŵr mewndirol;

(iv)cludo olew drwy bibellau;

(v)puro olew neu ei brosesu fel arall.

10.(1) Gweithiwr y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol o fewn y cyfnod y byddai, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)—

(a)gweithgareddau ar osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef,

(b)gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,

(c)gwaith diogelwch critigol ar osodiad neu ffynnon alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei datgomisiynu neu ei gadw neu ei chadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei dymchwel neu ei ailddefnyddio neu ei hailddefnyddio, neu

(d)gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c),

pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gosodiad alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 1998(26);

(b)mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 1998(27);

(c)mae i “ffynnon” yr ystyr a roddir i “well” yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 1998(28).

11.  Gweithredydd post, fel y diffinnir “postal operator” yn adran 27(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011(29), pan fo’r gweithredydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

12.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.

13.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu waith brys (gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

14.(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd dynol neu waed, neu sy’n cynnwys hynny, ac sydd i’w ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaed” yn cynnwys cydrannau gwaed;

(b)mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).

15.  Person sy’n “arolygydd” o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(30) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

16.(1) Person sydd—

(a)wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—

(i)i gynnal treial clinigol o fewn ystyr “conducting a clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(31),

(ii)i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal treial clinigol, neu

(iii)i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol mewn perthynas â threial clinigol na ellir ei gynnal o bell,

(b)yn berson cymwys o fewn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 43 o’r Rheoliadau hynny, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath, neu

(c)yn noddwr treial clinigol o fewn yr ystyr a roddir i “sponsor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny, neu’n cyflawni swyddogaethau neu ddyletswyddau noddwr o’r fath, ac sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r treial clinigol.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.

17.  Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad clinigol o fewn yr ystyr a roddir i “clinical investigation” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(32), neu i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal ymchwiliad clinigol neu i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol arall mewn perthynas ag ymchwiliad clinigol na ellir ei gynnal o bell.

18.(1) Person sydd—

(a)yn berson cymwys o fewn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 41(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(33),

(b)yn berson cyfrifol o fewn yr ystyr a roddir i “responsible person” yn rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

(c)yn berson â chymwysterau priodol sy’n gyfrifol am wyliadwriaeth ffarmacolegol o fewn yr ystyr a roddir i “an appropriately qualified person responsible for pharmacovigilance” yn rheoliad 182(2)(a) o’r Rheoliadau hynny,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

19.(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—

(a)person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a

(b)gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—

(i)darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a

(ii)sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “system rhwydwaith a gwybodaeth” yr ystyr a roddir i “network and information system” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018(34).

20.  Person sy’n ymgymryd â gwaith brys neu waith hanfodol—

(a)sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—

(i)rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebu electronig fel y diffinnir “electronic communications network” ac “electronic communications service” yn adran 32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(35), neu

(ii)rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,

(b)mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

21.(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—

(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,

(b)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor,

(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor, neu a fu’n ymwneud â’i rhedeg,

(d)sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,

(e)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn dychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor neu’r rhaglen hyfforddi dramor.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “athletwr elît” yw person—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,

(iii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (er bod y Rheoliadau hynny wedi eu dirymu), neu

(iv)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu yng nghynghrair Europa UEFA;

(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—

(i)i ennill bywoliaeth, neu

(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;

(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.

22.  Person—

(a)sy’n ymgymryd â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,

(b)y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,

pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(3)

O.S. 2016/618; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/707 ac O.S. 2019/558.

(5)

1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 17BA(6) gan adran 4(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21). Mewnosodwyd y cyfeiriad at “sewerage licensee” yn adran 219(1) gan baragraff 120(2)(f) o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(6)

1991 p. 56. Diwygiwyd y diffiniad o “sewerage services” gan baragraff 120 o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(7)

Diwygiwyd adran 6 gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) ac Atodlen 8 iddi, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(8)

Mewnosodwyd adran17A gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014.

(9)

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25).

(10)

Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)).

(12)

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 (p. 21).

(13)

O.S. 2014/3120. Nid oes unrhyw offerynnau diwygio perthnasol.

(14)

1986 p. 44. Mewnosodwyd adran 7ZA gan adran 149(6) o Ddeddf Ynni 2004.

(15)

Mewnosodwyd y diffiniad gan O.S. 2011/2704.

(18)

Mae diwygiadau i adran 83(1) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(19)

Mewnosodwyd y diffiniad o “electricity interconnector” gan adran 147(7) o Ddeddf Ynni 2004. Amnewidiwyd y diffiniad o “transmission system” gan baragraff 15 o Atodlen 19 i Ddeddf 2004.

(20)

2000 p. 5.

(21)

Sefydlwyd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2004.

(22)

1965 p. 57. Amnewidiwyd adran 1 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32); yn rhinwedd adran 1(2), cyfeirir at drwydded a ddisgrifir yn adran 1(1) fel “nuclear site licence”.

(23)

1996 p. 6.

(24)

2018 p. 5.

(25)

Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil o dan adran 1(1) o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75). Disodlwyd y Ddeddf honno gan statud cydgrynhoi, Deddf Hedfan Sifil 1982 (p. 16), y mae adran 2(1) ohoni yn darparu ar gyfer parhad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae diwygiadau i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Sefydlwyd Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd gan Reoliad (EU) 2018/1139 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 4 Gorffennaf 2018 ar reolau cyffredin ym maes hedfan sifil a sefydlu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd, a Rheoliadau diwygio (EC) Rhif 2111/2005, (EC) Rhif 1008/2008, (EU) Rhif 996/2010, (EU) Rhif 376/2014 a Chyfarwyddebau 2014/30/EU a 2014/53/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 552/2004 ac (EC) Rhif 216/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3922/91.

(26)

1998 p. 17. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Ynni 2008 (p. 32).

(27)

Amnewidiwyd adran 9H gan adran 74(2) o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20).

(28)

Amnewidiwyd adran 45A gan adran 75(1) o Ddeddf Ynni 2008. Mae diwygiadau i adran 45A(10) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(29)

2011 p. 5.

(31)

O.S. 2004/1031, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(35)

2003 p. 21. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications network” gan O.S. 2011/1210.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources