- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5. Yn rheoliad 9(2) (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)person a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A).”
6.—(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—
“(1) Ni chaiff person (“P”) ddod i Gymru os yw P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo P—
(a)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (h) neu (k) o Atodlen 2 neu’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o’i aelwyd;
(b)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(i) neu (j) o Atodlen 2 pan fo’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni;
(c)yn aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person y mae is-baragraff (b) yn gymwys iddo—
(i)pan fo’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r person hwnnw,
(ii)pan fo’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi ei hysbysu bod P yn cyrraedd, a
(iii)pan fo’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau na ddylai paragraff (1) fod yn gymwys i P;
(d)yn berson a ddisgrifir yn y paragraffau a ganlyn o Atodlen 2—
(i)paragraffau 2 i 5;
(ii)paragraff 6 oni bai bod P, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar wahân i ynysoedd Açores, Madeira neu Bortiwgal;
(iii)paragraff 13 neu 13A;
(iv)paragraff 15 neu 16.
(3) Yr amodau a bennir yn y paragraff hwn yw bod, cyn i P ymadael i’r Deyrnas Unedig—
(a)pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swydd gonsylaidd neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig, neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei bod yn ofynnol i P ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swydd gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a
(b)y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yna wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)—
(i)ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a
(ii)bod P yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â pharagraff (1).
(4) Pan fo gair neu ymadrodd wedi ei ddiffinio at ddibenion Atodlen 2 ac yn cael ei ddefnyddio yn y rheoliad hwn, mae’r un diffiniad yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn.”
7. Yn rheoliad 12F(2) (gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewnosoder y canlynol ar ôl is-baragraff (c)—
“(d)awyren neu lestr a weithredir gan wlad neu diriogaeth dramor neu i’w chefnogi pan fo, cyn iddi neu iddo gyrraedd Cymru, Adran o’r Llywodraeth wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig i’r gweithredwr bod yr awyren neu’r llestr yn cludo teithwyr sy’n teithio i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: