- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig benodi prif weithredwr.
(2) Rhaid i brif weithredwr cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir ym mharagraff (3), a
(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyd-bwyllgor corfforedig yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.
(3) Y materion yw—
(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer ei wahanol swyddogaethau,
(b)trefniadau’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag—
(i)cynllunio ariannol,
(ii)rheoli asedau, a
(iii)rheoli risg,
(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer ei swyddogaethau,
(d)trefniadaeth staff y cyd-bwyllgor corfforedig,
(e)penodi staff y cyd-bwyllgor corfforedig, ac
(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu.
(4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r prif weithredwr drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(5) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad a wnaed o dan baragraff (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at yr aelodau am y tro cyntaf.
(6) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan y rheoliad hwn.
(7) Nid yw rheoliad 13 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir ar gyd-bwyllgor corfforedig gan baragraff (5).
4.—(1) Ym Mesur 2011—
(a)wrth gymhwyso adran 142 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau) i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r cyfeiriad at 1 Ebrill 2012 i’w ddarllen fel cyfeiriad at 1 Ebrill 2022;
(b)yn adran 143A(7) (swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr), yn y diffiniad o “prif weithredwr”, ar ôl “Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021” mewnosoder “neu brif weithredwr a benodir gan gyd-bwyllgor corfforedig”;
(c)yn adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.)—
(i)yn is-adran (2), o flaen paragraff (e) mewnosoder—
“(db)cyd-bwyllgor corfforedig;”;
(ii)yn is-adran (4) hepgorer “ac” ar ôl paragraff (b);
(iii)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (c) mewnosoder “, a” ac yna mewnosoder—
“(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;”;
(iv)yn is-adran (5), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “heblaw cyd-bwyllgor corfforedig”;
(v)yn is-adran (8), yn lle “(2)(e)” rhodder “(2)(db) neu (e)”.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn (ac felly wrth estyn adran 143A o Fesur 2011 i awdurdod perthnasol sy’n gyd-bwyllgor corfforedig), hyd nes y daw’r diwygiadau a wneir i adran 143A o Fesur 2011 gan baragraff 15 o Atodlen 5 i Ddeddf 2021 i rym, mae adran 143A i’w darllen fel pe bai’r diwygiadau hynny mewn grym.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: