- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
20 Hydref 2021
Yn dod i rym
1 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 26M(3), (4) a (5) a 93(6A)(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 93(3A)(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2022.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “adeilad rhestredig” yr ystyr a roddir i “listed building” yn adran 1(5) o Ddeddf 1990;
ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft ar gytundeb partneriaeth dreftadaeth;
mae “awdurdod cynllunio lleol” i’w ddehongli yn unol â “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);
ystyr “awdurdod cynllunio lleol perthnasol” (“relevant local planning authority”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig, yw awdurdod cynllunio lleol y lleolir yr adeilad neu unrhyw ran ohono yn ei ardal;
ystyr “cydsyniad adeilad rhestredig” (“listed building consent”) yw cydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf 1990;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(5);
ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft;
ystyr “cytundeb partneriaeth dreftadaeth” (“heritage partnership agreement”) yw cytundeb y mae awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru wedi ei wneud o dan adran 26L o Ddeddf 1990;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “meddiannydd hirdymor” (“long-term occupier”) yw meddiannydd o dan denantiaeth sy’n cael ei rhoi neu ei hestyn am dymor o flynyddoedd sicr nad oes llai na dwy flynedd ohono yn dal heb ddod i ben;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad o’r fath, yw person sydd am y tro—
yn berchennog yr ystâd mewn cysylltiad â’r ffi syml yn yr adeilad neu’r rhan, neu
â hawl i denantiaeth ar yr adeilad neu’r rhan sy’n cael ei rhoi neu ei hestyn am dymor o flynyddoedd sicr nad oes llai na 7 mlynedd ohono yn dal heb ddod i ben.
(2) Pan fo—
(a)cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno neu roi hysbysiad neu ddogfen arall i unrhyw berson at ddibenion y Rheoliadau hyn, a
(b)bod y cyfathrebiad yn dod i law’r person hwnnw y tu allan i oriau busnes y person,
cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf.
3.—(1) Rhaid i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys—
(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef, gan gynnwys plan;
(b)unrhyw blaniau a lluniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith a gwmpesir gan y cytundeb;
(c)y dyddiad y mae’r cytundeb yn cael effaith ohono;
(d)hyd y cytundeb.
(2) Gweler hefyd yr adrannau a ganlyn yn Neddf 1990—
(a)adran 26L(8) (materion eraill y caniateir eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth);
(b)adran 26M(1) (yn gwneud darpariaeth atodol ar gyfer gofynion partneriaeth dreftadaeth).
4.—(1) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol wneud cytundeb partneriaeth dreftadaeth oni bai bod gofynion rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni.
(2) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol amrywio cytundeb presennol er mwyn—
(a)rhoi neu amrywio cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, neu
(b)estyn hyd y cytundeb,
oni bai bod gofynion rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni.
5.—(1) Dyma’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 sy’n ymwneud ag ymgynghori.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol—
(a)anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at Weinidogion Cymru, a
(b)gwahodd sylwadau ganddynt o fewn cyfnod penodedig o 21 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft i law.
(3) Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gydymffurfio â pharagraff (2)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, neu
(b)os yw awdurdod cynllunio lleol arall wedi cydymffurfio â pharagraff (2) mewn perthynas â hwy a’r un cytundeb drafft neu amrywiad drafft.
(4) Yn ystod y cyfnod ymgynghori a bennir o dan baragraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol a wahoddodd sylwadau fod arnynt angen rhagor o amser i ystyried y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hysbysiad a bennir ym mharagraff (4), estynnir y cyfnod ymgynghori ym mharagraff (2)(b) am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
6.—(1) Dyma’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd.
(2) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol—
(a)trefnu bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno, ynghyd â manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau ac erbyn pa ddyddiad—
(i)mewn man yn yr ardal y mae’r adeilad rhestredig yr effeithir arno wedi ei leoli ynddi;
(ii)ar oriau rhesymol;
(iii)am o leiaf 21 o ddiwrnodau;
(b)cyhoeddi ar ei wefan am o leiaf 21 o ddiwrnodau—
(i)cyfeiriad neu leoliad yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,
(ii)crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft,
(iii)datganiad bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y man ac ar yr adegau a nodir,
(iv)manylion am sut y caniateir cyflwyno sylwadau, a
(v)erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i sylwadau ddod i law;
(c)arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (b) am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar neu gerllaw’r adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef;
(d)rhoi copi o’r hysbysiad i—
(i)unrhyw feddiannydd hirdymor adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,
(ii)unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig neu ran ohono y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef na fwriedir iddo fod yn barti i’r cytundeb drafft na’r amrywiad drafft, a
(iii)unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn briodol am fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu ran ohono, neu adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig yn y rhain, ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo paragraff (6) yn gymwys.
(3) Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gydymffurfio â’r canlynol—
(a)paragraff (2)(c) os oes awdurdod cynllunio lleol arall wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft;
(b)paragraff (2)(d) mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft neu sydd wedi cael hysbysiad gan awdurdod cynllunio lleol arall mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft.
(4) Rhaid i ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2) fel y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i sylwadau ddod i law ynghylch cytundeb drafft neu amrywiad drafft fod—
(a)mewn perthynas â threfnu bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno o dan baragraff (2)(a), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y trefnir ei fod ar gael o dan y paragraff hwnnw;
(b)mewn perthynas â chyhoeddi crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar eu gwefan o dan baragraff (2)(b), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir y crynodeb;
(c)mewn perthynas ag arddangos hysbysiad o dan baragraff (2)(c), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad;
(d)mewn perthynas â rhoi copi o’r hysbysiad o dan baragraff (2)(d), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(5) Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi ei ddileu, wedi ei guddio neu wedi ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, a hynny heb fod bai ar yr awdurdod a’i harddangosodd, trinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, i’w amnewid.
(6) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn berchennog ar adeilad neu adeiladau rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hwy, mae paragraff (7) yn gymwys.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d)(iii) unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt ei fod yn briodol am fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu ran ohono, neu adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig yn y rhain, oni bai bod y person hwnnw’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu i’r amrywiad drafft.
(8) Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi gwybodaeth—
(a)sy’n gyfrinach fasnach,
(b)os yw ei datgelu yn debygol o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson fel arall,
(c)y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu
(d)y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, o dan unrhyw ddeddfiad neu gan orchymyn llys.
7. Wrth ystyried a ddylid gwneud neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth i roi cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb cadw’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd ganddo.
8. Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol—
(a)cyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o’r holl gytundebau partneriaeth dreftadaeth sydd mewn effaith y mae’n barti iddynt, a
(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei wneud, neu i gytundeb presennol gael ei amrywio—
(i)ychwanegu’r cytundeb neu’r amrywiad at y rhestr, a
(ii)cyflwyno copi o’r cytundeb neu’r amrywiad i Weinidogion Cymru.
9.—(1) Caiff awdurdod cynllunio lleol, drwy orchymyn, derfynu unrhyw gytundeb partneriaeth dreftadaeth y mae’n barti iddo neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.
(2) Caiff gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3) Nid yw gorchymyn a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (1) yn cael effaith oni chaiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 11(4).
(4) Caiff gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd gan y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw waith, gael ei arfer unrhyw bryd cyn i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, ond nid yw’r terfyniad yn effeithio ar hynny o’r gwaith hwnnw ag a gyflawnwyd yn flaenorol.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, derfynu unrhyw gytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.
(2) Caiff gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3) Caiff gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd gan y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw waith, gael ei arfer unrhyw bryd cyn i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, ond nid yw’r terfyniad yn effeithio ar hynny o’r gwaith hwnnw ag a gyflawnwyd yn flaenorol.
11.—(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud gorchymyn sy’n terfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, neu pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gorchymyn o’r fath, rhaid i’r corff sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud y gorchymyn gyflwyno hysbysiad—
(a)i bartïon y cytundeb,
(b)i unrhyw feddiannydd hirdymor yr adeilad y mae’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth yn ymwneud ag ef (os nad yw’n barti i’r cytundeb), ac
(c)i unrhyw berson arall y bydd y gorchymyn yn effeithio arno yn eu barn hwy.
(2) Rhaid i’r hysbysiad bennu cyfnod o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad, pryd y caiff unrhyw berson y’i cyflwynir iddo ofyn am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo.
(3) Os bydd person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gofyn felly o fewn y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw ac i unrhyw awdurdod cynllunio lleol sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth cyn iddynt wneud y gorchymyn neu ei gadarnhau.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau gorchymyn a gyflwynir iddynt gan awdurdod cynllunio lleol naill ai heb ei addasu neu gydag addasiadau.
12.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan derfynir cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath drwy orchymyn o dan reoliad 9 neu 10.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)yn achos gorchymyn a wneir o dan reoliad 9, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a wnaeth y gorchymyn;
(b)yn achos gorchymyn a wneir o dan reoliad 10, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol y lleolir yr adeilad neu unrhyw ran o’r adeilad sy’n arwain at y gwariant, y golled neu’r difrod yn ei ardal.
(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol dalu digollediad i berson os yw’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.
(4) Yr amodau yw—
(a)bod y person wedi mynd i wariant wrth gyflawni gwaith y mae’r terfyniad yn peri ei fod yn waith ofer, neu wedi dioddef colled neu ddifrod fel arall y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’r terfyniad,
(b)bod yr hawliad yn cael ei wneud mewn ysgrifen i’r awdurdod cynllunio lleol, ac
(c)bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno o fewn cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r terfyniad yn cael effaith.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid oes digollediad yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)unrhyw waith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth berthnasol gael effaith, neu
(b)unrhyw golled neu ddifrod arall (heb fod yn golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb gael effaith.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio lleol sydd yn barti i’r cytundeb, neu a fu’n barti iddo, gyfarwyddo, pan fo awdurdod cynllunio lleol yn atebol i dalu digollediad o dan y rheoliad hwn, fod ganddo hawl i gael ad-daliad o’r cyfan o’r digollediad neu unrhyw gyfran ohono a gyfarwyddir ganddynt oddi wrth un neu ragor o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae gwariant yr eir iddo wrth baratoi planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n paratoi ar gyfer unrhyw waith, i’w gymryd fe pe bai wedi ei gynnwys yn y gwariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith hwnnw.
13.—(1) Mae’r Atodlen yn datgymhwyso darpariaethau Deddf 1990 at ddibenion cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac mae’n cymhwyso darpariaethau a grybwyllir yn adran 26M(5)(a) o Ddeddf 1990 gydag addasiadau at y dibenion hynny.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn Neddf 1990 at ddarpariaeth o’r Ddeddf a gymhwysir ag addasiadau gan yr Atodlen yn gyfeiriad at y ddarpariaeth fel y mae’n gymwys yn rhinwedd yr Atodlen honno.
Dawn Bowden
Y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
20 Hydref 2021
Rheoliad 13
| Y ddarpariaeth yn Neddf 1990 | Y datgymhwysiad neu’r addasiad a gymhwysir at ddibenion darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn |
|---|---|
| Adran 18 (cyfyngu hyd cydsyniad adeilad rhestredig) | Nid yw’r adran yn gymwys. |
| Adran 19 (cais am amrywio neu ollwng amodau) | Nid yw’r adran yn gymwys. |
| Adran 31 (darpariaethau cyffredinol ynghylch digollediad am ddibrisiant) | Mae adran 31 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at adran 28 yn gyfeiriadau at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
| Adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) | Mae adran 62 yn gymwys fel pe bai yn is-adran (1)(a)— (a) y cyfeiriad at adran 23 yn gyfeiriad at reoliad 9 o’r Rheoliadau hyn, a (b) y cyfeiriad at adran 26 yn gyfeiriad at reoliad 10 o’r Rheoliadau hyn. |
| Adran 63 (achos i amau dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddydau eraill) | Mae adran 63 yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3A)(a), yr isod yn cael ei roi yn lle paragraffau (a) a (b)— “(a)in the case of an application relating to an order under regulation 9 of the Listed Buildings (Heritage Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2021, the date on which the order is confirmed; (b)in the case of an application relating to an order under regulation 10 of the Listed Buildings (Heritage Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2021, the date on which the order is made;”. |
| Adran 86 (eiddo eglwysig) | Mae adran 86 yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), y cyfeiriad at adran 29 yn gyfeiriad at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
| Adran 88 (hawliau mynediad) | Mae adran 88 yn gymwys fel pe bai— (a) yn is-adran (2)(a), cyfeiriadau at yr adrannau a ganlyn yn Neddf 1990 yn gyfeiriadau at y rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn— (i) adran 23 – at reoliad 9; (ii) adran 26 – at reoliad 10, a (b) yn is-adran (4), y cyfeiriad at adran 28 yn gyfeiriad at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
| Adran 90 (darpariaethau ariannol) | Mae adran 90 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at yr adrannau a ganlyn yn gyfeiriadau at y rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn— (a) adran 16(2) – at reoliad 7, (b) adran 24 – at reoliad 11, (c) adran 26 – at reoliad 10, a (d) adran 28 – at reoliad 12. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (“Deddf 1990”). Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch cytundebau partneriaeth dreftadaeth sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig yng Nghymru.
Mae Deddf 1990 yn amddiffyn adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a all gynnwys adeiladau, strwythurau neu adeileddau. Mae Deddf 1990 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o adeiladau o’r fath yng Nghymru. Dim ond os ydynt wedi eu hawdurdodi gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru y caniateir i fathau penodol o waith gael eu cyflawni ar “adeilad rhestredig”. Yr enw ar yr awdurdodiad hwn yw “cydsyniad adeilad rhestredig” ac fe’i rhoddir o dan Ran 1 o Ddeddf 1990.
Diwygiodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) Ddeddf 1990 i gyflwyno “cytundeb partneriaeth dreftadaeth”. Cytundeb yw hwn rhwng perchennog adeilad rhestredig yng Nghymru a naill ai’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru neu’r ddau. Gall fod partïon ychwanegol hefyd i gytundeb partneriaeth treftadaeth, gan gynnwys unrhyw berson sydd â gwybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu sydd â diddordeb ynddo, yn gyffredinol neu’n benodol. Mae adran 26M(2) o Ddeddf 1990 yn darparu y caiff cytundebau partneriaeth dreftadaeth ymwneud â mwy nag un adeilad rhestredig ar yr amod bod naill ai’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru yn barti iddo ynghyd â pherchennog ar yr adeilad neu ran o’r adeilad.
Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad adeilad rhestredig o dan adran 8(1) o Ddeddf 1990 mewn cysylltiad â gwaith penodedig ar gyfer addasu neu estyn yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef. Caiff y cydsyniad hwnnw fod yn ddarostyngedig i amodau.
Mae adran 26M(3) o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch agweddau penodol ar gynnwys cytundebau partneriaeth dreftadaeth a’r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar gytundebau a’u terfynu.
Mae rheoliad 3 yn nodi materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth. Maent yn cynnwys pethau fel digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef, a hyd y cytundeb.
Mae rheoliadau 4 i 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd mewn amgylchiadau penodol. Yr amgylchiadau hynny yw lle y caiff cydsyniad adeilad rhestredig ei roi neu ei amrywio ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig neu lle caiff hyd y cytundeb ei estyn.
Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn iddo wneud cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu ei amrywio.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol roi cyhoeddusrwydd i gytundebau partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiadau drafft ar gytundebau mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rheini’n cynnwys eu dwyn i sylw unrhyw berchennog a meddiannydd hirdymor nad yw’n barti arfaethedig i’r cytundeb neu’r amrywiad a sicrhau bod y cytundeb neu’r amrywiad arfaethedig ar gael i’r cyhoedd edrych arno ac ar wefan am nifer penodedig o ddiwrnodau. Rhaid arddangos hysbysiad o’r cytundeb neu’r amrywiad arfaethedig gerllaw’r adeilad a’i gyflwyno i bartïon penodol sydd â buddiant. Rhaid caniatáu o leiaf 21 o ddiwrnodau i sylwadau gael eu gwneud.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb cadw’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig wrth iddynt ystyried a ddylid gwneud cytundeb neu ei amrywio.
Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi rhestr o’r cytundebau partneriaeth dreftadaeth y mae’n barti iddynt sydd mewn effaith a bod rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu amrywiad, gynnwys cyfeiriad at y cytundeb neu’r amrywiad mewn rhestr, a gyhoeddir drwy ddulliau electronig, a chyflwyno copi i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliadau 9 a 10 yn darparu i awdurdodau cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, heb gytundeb partïon eraill y cytundeb. Rhaid i unrhyw orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio lleol gael ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru cyn y gall gael effaith.
Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gweithdrefn i arfer y pwerau terfynu hynny; sef mai dim ond pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad o’u bwriad i bartïon â buddiant y caiff yr awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, wneud hynny. Mae gan y partïon hynny 28 o ddiwrnodau i ofyn am gyfle i gael gwrandawiad gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer y digollediad y gall fod yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ei dalu ar ôl i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei derfynu. Os yw person wedi mynd i wariant penodedig neu wedi dioddef colled neu ddifrod fel arall o ganlyniad i’r terfyniad, gall fod yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ddigolledu’r person hwnnw.
Mae rheoliad 13 yn darparu bod y darpariaethau yn Neddf 1990 a restrir yn yr Atodlen wedi eu datgymhwyso neu eu haddasu at ddibenion cytundebau partneriaeth dreftadaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Cadw, Llywodraeth Cymru, Tŷ’r Afon, Heol Bedwas, Caerffili, CF83 8WT ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Mewnosodwyd adran 26M gan adran 28(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) (“Deddf 2016”). Mewnosodwyd adran 93(6A) gan baragraff 26 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).
Mewnosodwyd adran 93(3A) gan adran 40(5) o Ddeddf 2016. Mae’r cyfeiriad yn adran 93(3A) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: