- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”) er mwyn—
(a)caniatáu i berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 4 (sy’n cynnwys Cymru gyfan ar hyn o bryd) ymadael â’r man lle y mae’n byw i wneud ymarfer corff gydag 1 person arall (mae hyn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol sy’n caniatáu i berson ymadael â’i gartref i wneud ymarfer corff gydag aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person neu ofalwr y person);
(b)darparu y caiff golchfeydd ceir awtomatig barhau i fod ar agor mewn ardal Lefel Rhybudd 4;
(c)ym mhob Lefel Rhybudd, caniatáu i aelwyd sydd wedi peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig ffurfio aelwyd estynedig newydd, ar yr amod bod o leiaf 10 niwrnod wedi mynd heibio ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o unrhyw aelwyd arall yn yr aelwyd estynedig flaenorol;
(d)gwneud newidiadau canlyniadol a mân newidiadau eraill i sicrhau cysondeb â’r darpariaethau newydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: