NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”) er mwyn—

(a)

caniatáu i berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 4 (sy’n cynnwys Cymru gyfan ar hyn o bryd) ymadael â’r man lle y mae’n byw i wneud ymarfer corff gydag 1 person arall (mae hyn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol sy’n caniatáu i berson ymadael â’i gartref i wneud ymarfer corff gydag aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person neu ofalwr y person);

(b)

darparu y caiff golchfeydd ceir awtomatig barhau i fod ar agor mewn ardal Lefel Rhybudd 4;

(c)

ym mhob Lefel Rhybudd, caniatáu i aelwyd sydd wedi peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig ffurfio aelwyd estynedig newydd, ar yr amod bod o leiaf 10 niwrnod wedi mynd heibio ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o unrhyw aelwyd arall yn yr aelwyd estynedig flaenorol;

(d)

gwneud newidiadau canlyniadol a mân newidiadau eraill i sicrhau cysondeb â’r darpariaethau newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.