- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
29 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
2 Chwefror 2021
Yn dod i rym
28 Chwefror 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
2. Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
3. Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015(2) drwy hyn wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2021
Rheoliad 2
Y darnau penodedig o draffordd yr M4 yw—
Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r gorllewin o bwynt 675 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin hyd at bwynt 80 metr i’r gorllewin o ganolbwynt tanbont Forge Road.
Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r dwyrain o bwynt 64 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymadael tua’r dwyrain cyffordd 28 (Parc Tredegar) hyd at bwynt 229 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymuno tua’r dwyrain cyffordd 24 (Coldra).
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at bwynt 123 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 114 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o bwynt 6 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
Y darn o’r ffordd gyswllt ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â’r A4042.
Y darn o’r ffordd gyswllt ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r A4042 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain, gan gynnwys y lôn sy’n troi i’r chwith, wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 270 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Parc Tredegar.
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o bwynt 45 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cenedlaethol) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru.
1984 p. 27 Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraff 28(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), a pharagraff 25 o Atodlen 4 ac Atodlen 8 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40). Mewnosodwyd adran 17(3ZAA) gan adran 26(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: