2021 Rhif 101 (Cy. 27)
Traffig Ffyrdd, Cymru

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 28 (Parc Tredegar) i Gyffordd 24 (Coldra)) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2021, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2021.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.

Gosod terfyn cyflymder2.

Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.

Dirymu3.

Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 20152 drwy hyn wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENY DARNAU PENODEDIG O DRAFFORDD YR M4

Rheoliad 2

Y darnau penodedig o draffordd yr M4 yw—

  1. a)

    Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r gorllewin o bwynt 675 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin hyd at bwynt 80 metr i’r gorllewin o ganolbwynt tanbont Forge Road.

  2. b)

    Y darn o’r gerbytffordd tuaְ’r dwyrain o bwynt 64 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymadael tua’r dwyrain cyffordd 28 (Parc Tredegar) hyd at bwynt 229 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â ffordd ymuno tua’r dwyrain cyffordd 24 (Coldra).

  3. c)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at bwynt 123 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.

  4. d)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 114 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.

  5. e)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) o bwynt 6 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Coldra hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.

  6. f)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596.

  7. g)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.

  8. h)

    Y darn o’r ffordd gyswllt ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â’r A4042.

  9. i)

    Y darn o’r ffordd gyswllt ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) o’i chyffordd â’r A4042 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.

  10. j)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain, gan gynnwys y lôn sy’n troi i’r chwith, wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.

  11. k)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.

  12. l)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.

  13. m)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.

  14. n)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.

  15. o)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.

  16. p)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.

  17. q)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin.

  18. r)

    Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin hyd at bwynt 270 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol Cyfnewidfa Parc Tredegar.

  19. s)

    Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o bwynt 45 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain.

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cenedlaethol) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru.