Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (4) i (7).

(3Ar ôl rheoliad 2, mewnosoder—

Aelwydydd estynedig

2A.(1) Caiff hyd at bedair aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i bob oedolyn yn yr aelwydydd o dan sylw gytuno.

(3) Pan fo aelwydydd yn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio yn y rheoliad hwn) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys yr aelwydydd sydd wedi cytuno felly.

(4) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn un aelwyd estynedig.

(5) Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig os yw unrhyw oedolyn yn yr aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai yn yr aelwyd estynedig.

(6) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.

(7) Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo dwy aelwyd—

(a)wedi cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn cyn 22 Awst 2020, neu

(b)wedi eu trin fel pe baent wedi gwneud hynny yn unol â rheoliad 2(7) o’r Rheoliadau hyn cyn y dyddiad hwnnw.

(8) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, o ran yr aelwydydd—

(a)maent i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig yn unol â’r rheoliad hwn, a

(b)cânt gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig gyda hyd at ddwy aelwyd arall yn unol â’r rheoliad hwn.

(4Yn rheoliad 14, ar ôl paragraff 2(h) mewnosoder—

(hza)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre agored—

(i)i ddathlu gweinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020,

(ii)i ddathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;.

(5Yn rheoliad 14A, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Ond nid yw’r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i ddigwyddiad awyr agored wedi ei drefnu—

(a)sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru,

(b)nad yw mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo (heb gynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo), ac

(c)sydd wedi ei gynnal yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(4) At ddibenion paragraff (3)(a), mae digwyddiad yn “digwyddiad awyr agored wedi ei drefnu”—

(a)os yw’n digwydd yn yr awyr agored,

(b)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, ac

(c)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(2), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)wedi cydymffurfio â gofynion rheoliadau 12(2) a 13(1).

(5) At ddibenion paragraff (4)(c)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r digwyddiad yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r man lle y mae’r digwyddiad yn digwydd yn fangre agored y mae’r person sy’n trefnu’r digwyddiad yn gyfrifol amdani.

(6Yn rheoliad 18(9B), yn lle “achos o dan unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r” rhodder “unrhyw achos ac eithrio achos o dan y”.

(1)

O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/752 (Cy. 169)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/803 (Cy. 176)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/820 (Cy. 180)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/843 (Cy. 186)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/867 (Cy. 189)).

(2)

O.S. 1999/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources