- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am—
(a)mangre agored, neu
(b)gwaith a wneir mewn unrhyw fangre arall lle y mae person yn gweithio.
(2) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, rhaid i’r person—
(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr);
(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, fod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac sy’n cynnal hylendid megis—
(i)newid trefn y fangre gan gynnwys lleoliad y dodrefn a’r gweithfannau;
(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)fel arall rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i mewn neu’n gweithio yn y fangre ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “mangre agored” yw—
(a)mangre busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 4;
(b)addoldai;
(c)mynwentydd;
(d)mangre busnes a restrir yn Atodlen 1 nad yw’n ofynnol iddit gau yn unol â rheoliad 6;
(e)mangre busnes a restrir yn Atodlen 2 y caniateir iddi fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 7(2);
(f)mangre busnes a restrir yn Atodlen 3 y caniateir iddi fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu (3);
(g)amlosgfeydd y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(2);
(h)canolfannau cymunedol y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(4).
(4) At ddibenion y rheoliad hwn mae “mangre” hefyd yn cynnwys cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, rheilffyrdd, tramffordd, awyr neu fôr .
13.—(1) Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 12 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: