Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Mae’r diwygiadau yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n caniatáu i fangreoedd penodol fod ar agor er mwyn i athletwyr elît hyfforddi ac sy’n darparu ei bod yn esgus rhesymol i athletwr elît fod i ffwrdd o’i ardal leol, neu ymgynnull gyda phersonau eraill at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(b)sy’n caniatáu i siopau bu’n gorfod bod ar gau (a mangreoedd tebyg gan gynnwys delwriaethau ceir a marchnadoedd awyr agored) i agor, ond nodir fod rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion cadw pellter corfforol a rhaid i’w cwsmeriaid aros yn yr ardal sy’n lleol i’r man lle y maent yn byw;

(c)sy’n codi cyfyngiadau ar gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil, yn ddarostyngedig i ofynion cadw pellter corfforol;

(d)sy’n caniatáu i fannau addoli agor ar gyfer gweddïo preifat;

(e)sy’n ei gwneud yn glir y caiff man addoli neu ganolfan gymunedol agor (ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol) er mwyn darparu unrhyw wasanaeth cyhoeddus;

(f)sy’n datgan ei bod yn esgus rhesymol gadael eich ardal leol neu fod o dan do gyda phersonau eraill er mwyn pleidleisio mewn etholiad pan na fo’n rhesymol ymarferol pleidleisio ac eithrio’n bersonol;

(g)sy’n datgan ei bod yn esgus rhesymol gadael eich ardal leol neu ymgynnull o dan do gyda phersonau eraill er mwyn—

(i)symud tŷ;

(ii)paratoi eiddo i rywun symud i mewn;

(iii)ymweld ag asiant eiddo neu asiant gosod eiddo, swyddfa werthiant datblygwr neu gartref arddangos mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu neu rentu eiddo nad yw wedi ei feddiannu;

(iv)gweld eiddo nad yw wedi ei feddiannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources