NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Mae’r diwygiadau yn cynnwys darpariaeth—

(a)

sy’n caniatáu i fangreoedd penodol fod ar agor er mwyn i athletwyr elît hyfforddi ac sy’n darparu ei bod yn esgus rhesymol i athletwr elît fod i ffwrdd o’i ardal leol, neu ymgynnull gyda phersonau eraill at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(b)

sy’n caniatáu i siopau bu’n gorfod bod ar gau (a mangreoedd tebyg gan gynnwys delwriaethau ceir a marchnadoedd awyr agored) i agor, ond nodir fod rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion cadw pellter corfforol a rhaid i’w cwsmeriaid aros yn yr ardal sy’n lleol i’r man lle y maent yn byw;

(c)

sy’n codi cyfyngiadau ar gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil, yn ddarostyngedig i ofynion cadw pellter corfforol;

(d)

sy’n caniatáu i fannau addoli agor ar gyfer gweddïo preifat;

(e)

sy’n ei gwneud yn glir y caiff man addoli neu ganolfan gymunedol agor (ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol) er mwyn darparu unrhyw wasanaeth cyhoeddus;

(f)

sy’n datgan ei bod yn esgus rhesymol gadael eich ardal leol neu fod o dan do gyda phersonau eraill er mwyn pleidleisio mewn etholiad pan na fo’n rhesymol ymarferol pleidleisio ac eithrio’n bersonol;

(g)

sy’n datgan ei bod yn esgus rhesymol gadael eich ardal leol neu ymgynnull o dan do gyda phersonau eraill er mwyn—

(i)

symud tŷ;

(ii)

paratoi eiddo i rywun symud i mewn;

(iii)

ymweld ag asiant eiddo neu asiant gosod eiddo, swyddfa werthiant datblygwr neu gartref arddangos mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu neu rentu eiddo nad yw wedi ei feddiannu;

(iv)

gweld eiddo nad yw wedi ei feddiannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.