Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/07/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
10.—(1) Caiff person perthnasol roi hysbysiad gwahardd i berson F1...—
(a)[F2os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau] bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 4, [F35(3C),] 6 [F4, 6A] neu 7, a
(b)[F5os yw’r person perthnasol yn ystyried] ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur rhoi’r hysbysiad gwahardd at ddiben atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.
(2) Pan fo [F6gan berson perthnasol sail resymol dros amau] bod person (“P”) yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1), caiff y person perthnasol—
(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
(b)mynd â P i’r man hwnnw.
[F7(3) Caiff person perthnasol—
(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(a) neu (b), gyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(b).]
(4) Pan fo P yn blentyn yng nghwmni unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn—
(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.
(5) At [F8ddibenion y rheoliad hwn] , mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989).
(6) Ni chaiff person ond arfer y pŵer ym mharagraff (2) neu (4) os yw’r person perthnasol yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad.
(7) Pan fo [F9gan berson perthnasol sail resymol dros amau] bod tri neu ragor o bobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 8(5), caiff y person perthnasol—
(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
(c)mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.
[F10(8) Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—
(a)i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu
(b)i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,
ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(8A) Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 8(5) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.
(8B) Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.]
(9) [F11Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol] symud unigolyn o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 9(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 9(1), a chaiff defnyddio grym rhesymol [F12, os yw’n angenrheidiol,] i wneud hynny.
(10) Caiff person perthnasol gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir ar y person gan y rheoliad hwn neu reoliad 11.
(11) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13, ystyr “person perthnasol” yw—
(a)cwnstabl,
(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—
(i)Weinidogion Cymru,
(ii)awdurdod lleol
(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,
at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13 (ond gweler paragraffau (12) ac (13)).
(12) Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) gofyniad yn rheoliad 4, [F135(3C),] 6, [F146A,] 7 neu 9(4) yn unig.
(13) Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4) (neu doriad honedig ohono).
(14) Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 11 a 12, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 10(1) wedi eu hepgor (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(2)(a)
F2Geiriau yn rhl. 10(1)(a) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(2)(b)(i)
F3Gair yn rhl. 10(1)(a) wedi ei fewnosod (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(2)(b)(ii)
F4Gair yn rhl. 10(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 7(4)(a)
F5Gair yn rhl. 10(1)(b) wedi ei fewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(2)(c)
F6Geiriau yn rhl. 10(2) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(3)
F7Rhl. 10(3) wedi ei amnewid (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(4)
F8Geiriau yn rhl. 10(5) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(5)
F9Geiriau yn rhl. 10(7) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(6)
F10Rhl. 10(8)-(8B) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 10(8) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(7)
F11Geiriau yn rhl. 10(9) wedi eu hamnewid (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(8)(a)
F12Geiriau yn rhl. 10(9) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(8)(b)
F13Gair yn rhl. 10(12) wedi ei fewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 5(9)
F14Gair yn rhl. 10(12) wedi ei fewnosod (C.) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 7(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: