- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a)Hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8.6;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn”, rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (gofynion o dan Reoliad (EC) Rhif 178/2002: tramgwyddau), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)Article 12 (food and feed exported from Great Britain) in so far as it relates to food;”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig;”.
(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—
4. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros (“EUR”) i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd (“GBP”) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.”
(4) Yn lle’r pennawd i’r Atodlen, rhodder—
8.—(1) Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)—
(a)yn y diffiniad o “mewnforio”, yn lle “o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad arall y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig”;
(b)yn y diffiniad o “rhif cyfeirnod swyddogol”, yn lle “rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3)” rhodder “rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3”.
(3) Yn rheoliad 5(1)—
(a)Yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)ei fod wedi’i arbelydru yn un o’r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn Atodlen 3 neu Atodlen 4;”;
(b)Yn is-baragraff (ch), hepgorer “arall”.
(4) Yn lle’r pennawd i Atodlen 3, rhodder—
9. Yn Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(5), yn lle’r pennawd i Atodlen 1, rhodder—
10.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth ac eithrio’r Ynysoedd Prydeinig.”
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys”.
(4) Yn rheoliad 5(1), yn lle “ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
(5) Hepgorer rheoliadau 14, 15 a 16.
(6) Yn rheoliad 17—
(a)hepgorer paragraff (3);
(b)ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).
(7) Yn rheoliad 19(1)—
(a)yn is-baragraff (a), hepgorer “14, 15 neu”;
(b)yn is-baragraff (b)—
(i)hepgorer “14, 15 neu”;
(ii)yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.
(8) Yn rheoliad 20(2), hepgorer “neu reoliad 16”.
(9) Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” o’i flaen.
(10) Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).
(11) Hepgorer rheoliad 35(7).
(12) Yn rheoliad 41—
(a)ym mharagraff 1(b), hepgorer “neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35”;
(b)ar ôl paragraff 1(d) mewnosoder—
“(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.”
(13) Yn Atodlen 6, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602, yn yr ail golofn, yn lle “IMSOC” rhodder “system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol”.
11.—(1) Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(b)yn Rhan 2—
(i)ym mharagraff 2, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”;
(ii)ym mharagraff 4, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd”.
12.—(1) Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “o’r darpariaethau UE” rhodder “o ddarpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “darpariaethau UE” rhodder “darpariaethau cyfraith yr UE a ddargedwir”.
(3) Yn rheoliad 8(2) (cymhwyso adrannau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990), yn nhestun adran 9 a addaswyd, yn lle “the EU requirements”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “the retained EU law requirements”.
13.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(b), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(d), yn lle “nhiriogaeth yr UE” rhodder “y Deyrnas Unedig”.
(4) Hepgorer rheoliad 15.
(5) Yn Atodlen 1—
(a)yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(b)Yn Nhabl 2—
(i)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a deellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg a Saesneg”;
(ii)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.
(6) Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—
(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(7) Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(8) Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—
(a)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “yn rhestr yr Undeb” rhodder “yn y rhestr ddomestig”;
(b)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c)yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
14.—(1) Mae Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 17—
(a)Ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “Aelod-wladwriaeth neu drydedd”;
(ii)yn lle’r geiriau o “un o’r mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “y mynegiad “blend of honeys from more than one country”, neu geiriad yn Saesneg ag ystyr cyfatebol.”;
(b)ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “mynegiadau a ganlyn” hyd at y diwedd, rhodder “mynegiad “cyfuniad o felau o fwy nag un wlad”, neu geiriad yn Gymraeg ag ystyr cyfatebol.”
15.—(1) Mae Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (d), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (e), yn lle “wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “drydedd wlad”;
(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.”
O.S. 2004/3220 (Cy. 276), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/3279, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) a 2011/1043; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 4(2) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/3462 (Cy. 307), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162) a 2019/1481 (Cy. 265); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/1795 (Cy. 162), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2018/806 (Cy. 162); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/1557 (Cy. 152), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1480 (Cy. 264); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ond mae’r diwygiad hwnnw wedi ei hepgor gan reoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1482 (Cy. 266); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn rhagolygol, gan reoliadau 3(3) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
Gweler rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn ar gyfer datganiadau arbed darpariaethau a wneir o dan reoliad 35 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 sydd mewn grym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
O.S. 2013/479 (Cy. 55), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2013/2493 (Cy. 242), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162).
O.S. 2013/2591 (Cy. 255), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Fe’i ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/425 (Cy. 99) a 2019/1046 (Cy. 185) ond mae’r diwygiadau hynny wedi eu hepgor, yn y drefn honno, gan reoliadau 2(4) a 5(4) o’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1507 (Cy. 174), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: