- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),
(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”), ac
(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).
Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2017. Mae’n mewnosod “neu o dan y Rheoliadau hyn” ym mharagraffau (a), (b), (c), (d), (e) ac (f) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at Reoliadau 2017 yn ogystal ag at Reoliadau blaenorol, gyda’r effaith y bydd myfyriwr sy’n cwblhau cwrs sy’n denu cymorth o dan Reoliadau 2017 ac yna, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn dechrau ar unwaith ar un o nifer o gyrsiau eraill a restrir yn y diffiniad o “cwrs penben” yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth ar gyfer y cwrs diweddarach o dan Reoliadau 2017.
Mae rheoliad 4(a) yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2017. Mae’n cyflwyno paragraff newydd 5(4A) ac yn gwneud diwygiad i baragraff 5(2) sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 5(4A). Mae paragraff 5(4A) yn darparu bod is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 i’w darllen fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, os oes dau riant ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo incymau gweddilliol y rhieni hynny.
Mae rheoliad 4(b) yn gwneud diwygiad sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 5(4A) o Atodlen 5 i Reoliadau 2017.
Mae rheoliad 4(c) yn diwygio paragraff 7 o Atodlen 5 i Reoliadau 2017. Mae’n cyflwyno paragraff newydd 7(2) ac yn gwneud newid i destun presennol paragraff 7 sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 7(2). Mae paragraff 7(2) yn darparu, pan gymhwysir is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 i’r penderfyniad ar incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd, fod yr is-baragraffau hynny i’w darllen fel bod cyfanred incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo incymau gweddilliol y rhiant a phartner y rhiant.
Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Maent hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae rheoliad 6 yn diwygio paragraff 16 o Atodlen 3 i Reoliadau 2018 fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, neu’r rhiant a phartner y rhiant, os yw’r personau hynny ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo eu hincymau gweddilliol.
Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
Mae rheoliad 8 yn diwygio paragraff 16 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Graddau Meistr fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, neu’r rhiant a phartner y rhiant, os yw’r personau hynny ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo eu hincymau gweddilliol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: