<Legislation xmlns="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2020/142" NumberOfProvisions="8" xsi:schemaLocation="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation http://www.legislation.gov.uk/schema/legislation.xsd" SchemaVersion="1.0" xml:lang="cy"><ukm:Metadata xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata">
<dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2020-02-12</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">ADDYSG, CYMRU</dc:subject>
<dc:description>Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”), acRheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).</dc:description>
<atom:link rel="self" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.xml" type="application/xml"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/resources" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/resources/welsh" title="More Resources"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/act" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/made/welsh" title="whole act"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/introduction" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/introduction/made/welsh" title="introduction"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/signature" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/signature/made/welsh" title="signature"/><atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/note" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh" title="note"/>
<atom:link rel="http://www.legislation.gov.uk/def/navigation/body" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/body/made/welsh" title="body"/>
<atom:link rel="alternate" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made"/><atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="en" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/contents/made" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/rdf+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.rdf" title="RDF/XML"/><atom:link rel="alternate" type="application/akn+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.akn" title="AKN"/><atom:link rel="alternate" type="application/xhtml+xml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.xht" title="HTML snippet"/><atom:link rel="alternate" type="text/html" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.htm" title="Website (XHTML) Default View"/><atom:link rel="alternate" type="text/csv" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.csv" title="CSV"/><atom:link rel="alternate" type="application/pdf" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.pdf" title="PDF"/>
<atom:link rel="alternate" type="application/akn+xhtml" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh/data.html" title="HTML5 snippet"/>
<atom:link rel="http://purl.org/dc/terms/tableOfContents" hreflang="cy" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/contents/made/welsh" title="Table of Contents"/>
<atom:link rel="up" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/made/welsh" title="Entire legislation"/><atom:link rel="prev" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/><atom:link rel="prevInForce" href="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/signature/made/welsh" title="Signature; Signature"/>
<ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification>
<ukm:DocumentCategory Value="secondary"/>
<ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/>
<ukm:DocumentStatus Value="final"/>
<ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/>
</ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2020"/><ukm:Number Value="142"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="25"/><ukm:Made Date="2020-02-11"/><ukm:Laid Date="2020-02-13" Class="WelshAssembly"/><ukm:ComingIntoForce>
<ukm:DateTime Date="2020-03-02"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="9780348205145"/></ukm:SecondaryMetadata>
<ukm:Alternatives><ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/pdfs/wsi_20200142_mi.pdf" Date="2020-02-17" Size="488850" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives>
<ukm:Statistics>
<ukm:TotalParagraphs Value="8"/>
<ukm:BodyParagraphs Value="8"/>
<ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/>
<ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/>
<ukm:TotalImages Value="0"/>
</ukm:Statistics>
</ukm:Metadata><Secondary><ExplanatoryNotes DocumentURI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2020/142/note/made/welsh" IdURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2020/142/note">
<Comment>
<Para><Text>(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)</Text></Para>
</Comment>
<Text Hanging="indented">Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—</Text><P3>
<Pnumber>a</Pnumber>
<P3para>
<Text>Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),</Text>
</P3para></P3>
<P3>
<Pnumber>b</Pnumber>
<P3para>
<Text>Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”), ac</Text>
</P3para></P3>
<P3>
<Pnumber>c</Pnumber>
<P3para>
<Text>Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”).</Text>
</P3para></P3>
<Text Hanging="indented">Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2017. Mae’n mewnosod “neu o dan y Rheoliadau hyn” ym mharagraffau (a), (b), (c), (d), (e) ac (f) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at Reoliadau 2017 yn ogystal ag at Reoliadau blaenorol, gyda’r effaith y bydd myfyriwr sy’n cwblhau cwrs sy’n denu cymorth o dan Reoliadau 2017 ac yna, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn dechrau ar unwaith ar un o nifer o gyrsiau eraill a restrir yn y diffiniad o “cwrs penben” yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth ar gyfer y cwrs diweddarach o dan Reoliadau 2017.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 4(a) yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2017. Mae’n cyflwyno paragraff newydd 5(4A) ac yn gwneud diwygiad i baragraff 5(2) sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 5(4A). Mae paragraff 5(4A) yn darparu bod is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 i’w darllen fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, os oes dau riant ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo incymau gweddilliol y rhieni hynny.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 4(b) yn gwneud diwygiad sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 5(4A) o Atodlen 5 i Reoliadau 2017.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 4(c) yn diwygio paragraff 7 o Atodlen 5 i Reoliadau 2017. Mae’n cyflwyno paragraff newydd 7(2) ac yn gwneud newid i destun presennol paragraff 7 sy’n ganlyniadol i gyflwyno paragraff 7(2). Mae paragraff 7(2) yn darparu, pan gymhwysir is-baragraffau (2), (3) a (4) o baragraff 5 i’r penderfyniad ar incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd, fod yr is-baragraffau hynny i’w darllen fel bod cyfanred incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo incymau gweddilliol y rhiant a phartner y rhiant.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Maent hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 6 yn diwygio paragraff 16 o Atodlen 3 i Reoliadau 2018 fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, neu’r rhiant a phartner y rhiant, os yw’r personau hynny ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo eu hincymau gweddilliol.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae’r Rheoliadau Graddau Meistr yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.</Text>
<Text Hanging="indented">Mae rheoliad 8 yn diwygio paragraff 16 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Graddau Meistr fel bod cyfanred incymau gweddilliol y ddau riant, neu’r rhiant a phartner y rhiant, os yw’r personau hynny ar aelwyd myfyriwr cymwys, yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu pa flwyddyn ariannol i’w defnyddio wrth gyfrifo eu hincymau gweddilliol.</Text>
</ExplanatoryNotes></Secondary></Legislation>