- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 7 nac 8), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 13 mewnosoder—
“13.—(1) Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—
(a)gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;
(b)person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c)person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,
(b)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,
(c)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,
(d)ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,
(e)ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,
(f)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.”.
(3) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder—
“13A.—(1) Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a ardystiwyd gan yr Adran berthnasol yn waith sy’n angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag a roddir iddynt ym mharagraff 13.”.
(4) Ym mharagraff 35(a)(i) hepgorer “gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio ceblau tanfor sy’n cysylltu’r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill,”.
(5) Ar ôl paragraff 38 mewnosoder—
“39. Person —
(a)sy’n ymwneud â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
(b)y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: