- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Pan geir cais perthnasol cyn y diwrnod ymadael, mae Deddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw apêl sy’n codi ohono) ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan Ran 1 wedi eu gwneud.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cais perthnasol” yw cais—
(a)i dderbyn i ran gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu’r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf 2016,
(b)i adnewyddu cofrestriad yn y rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 86(2) o Ddeddf 2016,
(c)i aildderbyn i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 80 o Ddeddf 2016 ar ôl i gofrestriad ddarfod, neu
(d)i adfer i’r rhannau hynny o’r gofrestr o dan adran 96(2) neu 97(2) o Ddeddf 2016.
17.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a)yn union cyn y diwrnod ymadael—
(i)roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(1) mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a
(ii)roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person, a
(b)bo’r person yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.
(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan y person hwnnw ar ac ar ôl y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed)—
(a)yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
(b)adran 74(3) (rheolau: ffioedd);
(c)yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);
(d)adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
(e)adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);
(f)adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).
(3) Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—
(a)yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;
(b)yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o’r Ddeddf honno, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.
18. I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 17(2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—
(i)mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;
(ii)mae is-adran (8) i’w darllen fel pe bai’r diffiniadau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” a “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—
“ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—
person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,
person a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac, ar yr adeg honno, yn ceisio cael mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu
person nad oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);;”;
“ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—
mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno;
fel arall, fel y maent yn cael effaith (a dim ond i’r graddau y maent yn cael effaith), ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn y diwrnod ymadael neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn y diwrnod ymadael.”;
(b)yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.
19.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a)bo person, cyn y diwrnod ymadael, yn cael hysbysiad o benderfyniad a wneir o dan reoliad 67 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 i anfon rhybudd ynglŷn â’r person, a
(b)naill ai—
(i)bo’r terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 yn dod i ben ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, neu
(ii)bo apêl yn erbyn y penderfyniad o dan yr adran honno yn cael ei gwneud, ond ni phenderfynir yn derfynol arni, cyn y diwrnod ymadael.
(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad ar ac ar ôl y diwrnod ymadael fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod ymadael—
(a)yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
(b)yn adran 90(8), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
(c)adran 105(1) (ond nid paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno ac yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn).
(3) At ddibenion paragraff (2)(c), mae adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 i’w darllen fel pe bai “Rheoliadau Systemau Cyffredinol (fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg y gwnaed penderfyniad GCC(2))” wedi ei roi yn lle “Rheoliadau hynny”.
(4) Wrth waredu apêl yn erbyn y penderfyniad ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, mae gan y tribiwnlys (yn lle’r pwerau a bennir yn adran 105(5) o Ddeddf 2016) y pŵer—
(a)i gadarnhau’r penderfyniad, neu
(b)os yw’r tribiwnlys yn ystyried y dylai’r rhybudd gael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio, i gyfarwyddo Gofal Cymdeithasol Cymru i gymryd unrhyw gamau y mae’r tribiwnlys yn meddwl eu bod yn addas i hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd am benderfyniad y tribiwnlys.
Gweler adran 67(3) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: