Search Legislation

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygiadau i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

2.—(1Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “person penodedig” yn lle “rheoliad 11” rhodder “rheoliadau 11 ac 11A”.

(3Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder—

Swyddogaethau penodedig: llinellau trydan

11A.  Yn ogystal â’r swyddogaethau hynny a ragnodir gan reoliad 11, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990 mewn cysylltiad â datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig (Cymru) 2016(2)

(a)swyddogaethau o dan adran 62F o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cydsyniadau eilaidd)(3);

(b)swyddogaethau o dan adran 62J o Ddeddf 1990 (dyletswydd i roi sylw i adroddiad ar yr effaith leol)(4);

(c)penderfynu ar y cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu yn unol ag adran 62L(2) o Ddeddf 1990(5);

(d)penderfynu ar gais o dan adran 70(1) o Ddeddf 1990(6);

(e)swyddogaethau o dan erthyglau 28 a 29 o Orchymyn 2016;

(f)swyddogaethau o dan y rheoliadau a ganlyn—

(i)rheoliad 19 (mynd ymlaen i benderfynu);

(ii)rheoliad 29 (penderfynu);

(iii)rheoliad 35 (penderfynu);

(iv)rheoliad 36(1) (hysbysiad o benderfyniad).

(4Yn rheoliad 18 cyn paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan Weinidogion Cymru.

(5Ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—

Adroddiad: llinellau trydan

18A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.

(2) Rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig y mae’n rhaid iddo gynnwys casgliadau a phenderfyniad y person penodedig.

(3) Caiff y person penodedig beri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal os, ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig, yw’r person penodedig o’r farn y dylid cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith, nad yw’n fater o bolisi.

(4) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad i’w gynnal, rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach yn eu cylch at ddibenion ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig.

(5) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau pellach sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn pa bynnag gyfnod o amser a ddatgenir gan y person penodedig yn y gwahoddiad o dan baragraff (4).

(6) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw sylwadau pellach a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (5), fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.

(6Yn rheoliad 19(2) yn lle “a ragnodwyd gan reoliadau 15 a 18” rhodder “a ragnodir gan reoliadau 15, 18 a 18A”.

(7Yn rheoliad 20(2) yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig wedi peri i wrandawiad gael ei gynnal yn unol â rheoliad 18(5) neu reoliad 18A(3),

(8Yn rheoliad 28 cyn paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan Weinidogion Cymru.

(9Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—

Gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad: penderfyniad gan berson penodedig

28A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais i’w harfer gan berson penodedig.

(2) Ar ôl cau’r gwrandawiad—

(a)caiff yr asesydd (os penodir un) wneud adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i gynorthwyo gyda hwy;

(b)rhaid i’r person penodedig wneud adroddiad ysgrifenedig a chynnwys ynddo gasgliadau’r person penodedig a’i benderfyniad.

(3) Pan fo asesydd yn gwneud adroddiad yn unol â pharagraff (2)(a), rhaid i’r person penodedig—

(a)ei atodi wrth ei adroddiad; a

(b)datgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd, a phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, ddatgan y rhesymau dros yr anghytundeb hwnnw.

(4) Wrth wneud y penderfyniad, caiff y person penodedig ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall a geir ar ôl cau’r gwrandawiad.

(5) Os yw’r person penodedig, ar ôl cau’r gwrandawiad, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi) na chafodd ei godi yn y gwrandawiad ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn faterol berthnasol i’r penderfyniad, ni chaniateir i’r person penodedig ddod i benderfyniad heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig ac a gymerodd ran yn y gwrandawiad; a

(b)rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

(6) Rhaid i’r rhai sy’n gwneud sylwadau ysgrifenedig sicrhau bod y person penodedig yn cael y cyfryw sylwadau o fewn y cyfnod a ddatgenir yn hysbysiad y person penodedig o dan baragraff (5)(a).

(7) Caiff y person penodedig beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor fel yr ystyria’r person yn briodol.

(8) Pan ailagorir gwrandawiad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

(a)rhaid i’r person penodedig anfon at y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau hynny a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad, ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy, at y diben o ystyried y cais ymhellach gan y person penodedig; a

(b)mae rheoliad 26 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

(9) Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (6) o’r rheoliad hwn, fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y person penodedig.

(10) Mae rheoliad 29(b) i’w ddarllen fel pe bai cyfeiriad at y cyfnod a ganiateir yn unol â rheoliad 28(6) yn gyfeiriad at y cyfnod a ganiateir yn unol â rheoliad 28A(6).

(10Yn rheoliad 30(3) yn lle “rheoliadau 22 i 25 a 28” rhodder “rheoliadau 22 i 25, 28 a 28A”.

(11Yn rheoliad 35(b) yn lle “rheoliad 28(6)” rhodder “rheoliad 28(6) neu reoliad 28A(6) (yn y naill achos a’r llall fel y’i cymhwysir gan reoliad 30(3))”.

(12Yn lle rheoliad 40(1) rhodder—

40.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys pan gaiff penderfyniad mewn perthynas â chydsyniad eilaidd ei wneud gan—

(a)Gweinidogion Cymru—

(i)yn rhinwedd adran 62F(2) o Ddeddf 1990; neu

(ii)o dan unrhyw ddeddfiad arall pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cydsyniad eilaidd yn gysylltiedig â chais o dan adran 62D o Ddeddf 1990; neu

(b)person penodedig yn rhinwedd rheoliad 11A(a).

(13Yn Atodlen 1—

(a)yn y testun Cymraeg hepgorer paragraff 8(b).

(b)ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

Gweithdrefn ar ôl ymchwiliad: penderfyniad gan berson penodedig

8A.  Rhaid darllen rheoliad 28A (fel y’i cymhwysir i ymchwiliadau gan reoliad 30(3)) fel a ganlyn—

(a)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig yn yr ymchwiliad—

(a)rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân o’u hadroddiadau (“y rhan gaeedig”) unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu benderfyniad mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a

(b)pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd wrth ran gaeedig adroddiad y person penodedig, a rhaid iddo ddatgan, yn rhan gaeedig yr adroddiad hwnnw, y lefel o gytundeb neu anghytundeb â rhan gaeedig adroddiad yr asesydd, a phan fo anghytundeb â’r asesydd, y rhesymau am yr anghytundeb hwnnw.

(b)ym mharagraff 8(a) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “, y cynrychiolydd penodedig.

(14Yn Atodlen 8—

(a)ar ôl paragraff 1(3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i adroddiad y person penodedig o dan reoliadau 18A (adroddiad: llinellau trydan) neu reoliad 28A (gweithdrefn ac adroddiad ar ôl gwrandawiad: penderfyniad gan berson penodedig) gynnwys, yn ychwanegol at gasgliadau a phenderfyniad y person penodedig mewn perthynas â’r cais, argymhelliad neu benderfyniad mewn perthynas â gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990.

(b)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Rhaid darllen rheoliad 28A fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (4) yn lle “sylwadau ysgrifenedig neu ddogfen arall” rhodder “wrthwynebiad i wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”;

(b)ym mharagraff (5) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a wrthwynebodd wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”;

(c)ym mharagraff (8)(a) yn lle “a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig” rhodder “a wrthwynebodd wneud gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf 1990”.

(2)

O.S. 2016/53 (Cy. 23), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/358 (Cy. 111). Mewnosodwyd rheoliad 3(1)(ab) gan Reoliadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/283 (Cy. 65)).

(3)

Mewnosodwyd adran 62F gan adran 20 o Ddeddf 2015.

(4)

Mewnosodwyd adran 62J gan adran 21 o Ddeddf 2015.

(5)

Mewnosodwyd adran 62L gan adran 22 o Ddeddf 2015.

(6)

Diwygiwyd adran 70(1) gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2015.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources