Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1269 (Cy. 220)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019

Gwnaed

17 Medi 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Medi 2019

Yn dod i rym

6 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 87, 105(2), (3), (4)(c) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Tachwedd 2019.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Awdurdodau lleol penodedig

2.—(1Mae pob awdurdod lleol sy’n dod o fewn disgrifiad o awdurdod lleol ym mharagraff (2) yn benodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(2Y disgrifiadau o awdurdod lleol yw—

(a)cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru.

Newid blynyddoedd etholiadau cyffredin

3.—(1Mae’r blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r awdurdodau lleol a bennir yn erthygl 2 wedi eu newid gan y diwygiadau a ganlyn i Ddeddf 1972.

(2Yn adran 26(1)(4) o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2017”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2022”.

(3Yn adran 35(2)(5) o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2017” rhodder “2022”.

Cyfnod swydd cynghorwyr presennol

4.  Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) ac adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.

Dirymu

5.  Mae Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014(6) wedi ei ddirymu.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Medi 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, wneud darpariaeth drwy Orchymyn i newid y blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i unrhyw awdurdod lleol penodedig.

Mae erthygl 2 yn darparu bod cynghorau ar gyfer siroedd neu fwrdeistrefi sirol a chynghorau ar gyfer cymunedau yng Nghymru yn awdurdodau penodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 3 yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru yn cael eu cynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2022 yn lle 2021. Mae’n gwneud hynny drwy roi “2022” yn y lleoedd priodol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n pennu blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned.

Mae erthygl 4 yn darparu bod cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi ei estyn gan un flwyddyn yn unol â hynny.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”). Mae Gorchymyn 2014 yn darparu bod etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi eu cynnal yn 2017 yn lle 2016. Mae etholiadau cyffredin 2017 wedi eu cynnal ac mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi “2022” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, felly gellir dirymu Gorchymyn 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gymdymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Amnewidiwyd adran 26 gan adran 4(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a diwygiwyd adran 26(1) gan erthygl 2(1) o O.S. 2014/3033 (Cy. 302).

(5)

Amnewidiwyd adran 35(2) i (2B) gan adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a diwygiwyd adran 35(2) gan erthygl 2(2) o O.S. 2014/3033 (Cy. 302).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources