Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan 4Diwygiadau sy’n ymwneud â statws mewnfudo myfyrwyr

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

39.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 40 ac 41.

40.  Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol), ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn paragraff 5” rhodder “o fewn paragraffau 4A a 5”;

(b)yn is-baragraff (c), yn lle “o fewn paragraffau 5 a 9” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5 a 9.”

41.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;; ac

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;;

(ii)yn lle’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” rhodder—

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P”)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)

wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(2) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;

(b)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(3)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;;

(b)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.;

(c)ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—

(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac;

(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac; a

(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

42.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 43 i 45.

43.  Yn rheoliad 3—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;; ac

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;;

(b)yn lle paragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(5) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;.

44.  Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod a ganiateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw gais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo(6) yn yr arfaeth,

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

45.  Yn Atodlen 1—

(a)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.;

(b)ym mharagraff 5—

(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;;

(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;; a

(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

46.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 47 i 49.

47.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8);; ac

ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(9);;

(b)yn y diffiniad o “cwrs penben”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “ neu reoliad 2(1) o Reoliadau 2017”;

(c)yn y diffiniad o “cwrs blaenorol”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “, cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017”; a

(d)yn lle’r diffiniad o “cwrs sengl” rhodder—

ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs—

(a)

y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;

(b)

y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2017 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw; neu

(c)

y mae rheoliad 6(4) o Reoliadau 2018 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn rheoliad 6(3) o Reoliadau 2018.

48.  Yn rheoliad 4 (disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—

(a)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;

(b)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;

(c)person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2018 oherwydd ei fod yn berson y mae Eithriad 3, paragraff (a), Eithriad 4, Eithriad 5 neu Eithriad 6 a restrir yn rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo; neu

(d)person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).

49.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1(1)—

(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;; ac

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;;

(ii)yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(10) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;; a

(b)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu

4A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.;

(c)ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—

(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac;

(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; a; a

(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

50.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(11) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 51 i 53.

51.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

(a)

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a

(b)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;; ac

ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;;

(b)yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(12) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;.

52.  Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ym mharagraff (b), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.

53.  Yn Atodlen 1—

(a)ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)(i)y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn blwyddyn gyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.;

(b)ym mharagraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—

(i)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;;

(ii)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(iii)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;; a

(iv)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

54.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(13) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 55 a 56.

55.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—

(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau(14) ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;.

56.  Yn Atodlen 1, paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;;

(b)yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;;

(c)yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—

(c)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;; a

(d)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

(1)

O.S. 2007/2310 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101) ac O.S. 2011/1978 (Cy. 218); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

(3)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc.) 2004, Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 19, O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.

(5)

Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

(6)

Gweler “Appendix AR: administrative review”.

(10)

Mae paragraff 276BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

(12)

(14)

Mae paragraff 376BE(2) o’r rheolau mewnfudo yn cyfeirio at hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: