Search Legislation

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 767 (Cy. 154)

Enillion Troseddau, Cymru

Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

24 Mehefin 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Mehefin 2018

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru.

Diwygio Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018

2.—(1Mae Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC) o’r Atodlen—

(a)ym mharagraff 3, ar ôl “290(4)(c)” mewnosoder “a’r cyfeiriad yn adran 297A(6)(c)(3)”;

(b)ar ôl paragraff 3 mewnosoder—

3A.  Adran 303C(9)(d)(4) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaelwyd ynddo) ac adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo).

3B.  Adran 303Z1(6)(5) (swyddog gorfodi at ddibenion Pennod 3B) ac adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif).;

(c)ym mharagraff 4, ar ôl “352(5)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)(6)”;

(d)ym mharagraff 5, ar ôl “353(10)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)(7)”; ac

(e)ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

7A.  Adran 378(3C)(c)(8) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).

7B.  Adran 378(3E)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).

(3Yn Rhan 2 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol) o’r Atodlen—

(a)ar ôl paragraff 11 mewnosoder—

11A.  Adran 297A(6)(c) (uwch-swyddog at ddiben rhoi hysbysiad fforffedu).

11B.  Adran 303E(4)(f)(9) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau).

11C.  Adran 303Z2(4)(e)(10) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B).

11D.  Adran 336D(7)(h)(11) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)).; a

(b)ar ôl paragraff 13 mewnosoder—

13A.  Adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).

13B.  Adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 (O.S. 2018/196 (Cy. 45)) (“y Prif Orchymyn”).

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn ofynnol o ganlyniad i ddiwygiadau i Ddeddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29) a wneir gan Ddeddf Cyllid Troseddol 2017 (p. 22).

Mae Deddf Cyllid Troseddol 2017 yn cyflwyno pwerau i Ddeddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn ymafael yn eitemau eiddo penodol a restrir, eu cadw a’u fforffedu, ac i gloi a fforffedu arian mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu (“y pwerau fforffedu newydd”). Cefnogir y pwerau hyn drwy greu dau gategori ymchwilio newydd yn Rhan 8 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 (ymchwiliad eiddo dan gadwad ac ymchwiliadau cyllid clo) (“yr ymchwiliadau newydd”). Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod darpariaethau yn y Prif Orchymyn er mwyn galluogi ymchwilwyr ariannol achrededig Awdurdod Cyllid Cymru i gael mynediad at y pwerau fforffedu newydd a’r ymchwiliadau newydd, ac i bennu pa ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n “uwch-swyddogion” at ddibenion y darpariaethau hynny. Yn ogystal, mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r mynediad at bwerau chwilio yn adrannau 352 a 353 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002. Mae cwmpas y ddarpariaeth yn y Prif Orchymyn wedi ei estyn i gynnwys yr ymchwiliadau newydd.

Mae Deddf Cyllid Troseddol 2017 yn mewnosod darpariaethau yn Rhan 7 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 syn caniatáu i ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n uwch-swyddogion wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn o dan adran 336A o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn estyn y cyfnod moratoriwm. Cyfnod o 31 diwrnod yw hwn sy’n digwydd pan fydd amheuaeth o wyngalchu arian wedi ei datgelu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni ellir cymryd yn ganiataol bod awdurdodau gorfodi’r gyfraith yn rhoi cydsyniad i drafodiad penodol fynd yn ei flaen. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod darpariaeth yn y Prif Orchymyn er mwyn pennu pa ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n uwch-swyddogion at ddibenion gorchymyn o dan adran 336A o Ddeddf Enillion Troseddau 2002.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2002 p. 29. Mewnosodwyd adran 453(1A) gan adran 186(4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

(3)

Mewnosodwyd adran 297A gan adran 65(1) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26). Fe’i diwygiwyd gan baragraff 14 o Atodlen 21 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) ac adran 34(7) o Ddeddf Cyllid Troseddol 2017 (p. 22) (“Deddf 2017”) a pharagraff 19 o Atodlen 1 iddi.

(4)

Mewnosodwyd adrannau 303C, 303L a 303O gan adran 15 o Ddeddf 2017.

(5)

Mewnosodwyd adrannau 303Z1 a 303Z14 gan adran 16 o Ddeddf 2017.

(6)

Mewnosodwyd adran 352(5)(ca) ac (cb) gan baragraff 47 o Atodlen 5 i Ddeddf 2017.

(7)

Mewnosodwyd adran 353(10)(ca) ac (cb) gan baragraff 48 o Atodlen 5 i Ddeddf 2017.

(8)

Mewnosodwyd adran 378(3C) i (3F) gan baragraff 59 o Atodlen 5 i Ddeddf 2017.

(9)

Mewnosodwyd adran 303E gan adran 15 o Ddeddf 2017.

(10)

Mewnosodwyd adran 303Z2 gan adran 16 o Ddeddf 2017.

(11)

Mewnosodwyd adran 336D gan adran 10(4) o Ddeddf 2017.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources