- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
19 Mehefin 2018
Yn dod i rym
30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru—
(a)wedi cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette a’r Western Mail fel sy’n ofynnol gan adran 140(6)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1) (“Deddf 1990”) ac wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw;
(b)wedi ymgynghori yn unol ag adrannau 59 a 60 o Ddeddf Gorfodaeth Reoleiddiol a Sancsiynau 2008(2) (“Deddf 2008”) ac wedi eu bodloni (yn unol ag adran 66 o’r Ddeddf honno) y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn;
(c)yn ystyried ei bod yn briodol i wneud y Rheoliadau hyn at ddiben atal y sylwedd neu’r eitemau a bennir ynddynt rhag achosi llygredd amgylcheddol a niwed i iechyd anifeiliaid.
Yn unol ag adran 62(3) o Ddeddf 2008, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr, ond maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyflenwi” (“supply”), mewn perthynas â chynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd, yw cyflenwi drwy ei werthu neu ei gyflwyno fel gwobr neu rodd hyrwyddo yng nghwrs busnes;
ystyr “cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd” (“rinse-off personal care product”) yw unrhyw sylwedd, neu gymysgedd o sylweddau, a weithgynhyrchir at ddiben ei roi ar unrhyw ran berthnasol o’r corff dynol yn ystod unrhyw driniaeth gofal personol, drwy broses roi sy’n golygu bod angen gwaredu’r cynnyrch (neu unrhyw weddillion o’r cynnyrch) mewn ffordd brydlon a phenodol wrth gwblhau’r driniaeth drwy ei olchi neu ei rinsio â dŵr, yn hytrach na gadael iddo dreulio neu olchi i ffwrdd, neu gael ei amsugno neu ei ddiosg gydag amser;
ac at y diben hwn—
ystyr “triniaeth gofal personol” (“personal care treatment”) yw unrhyw broses o lanhau, diogelu neu bersawru rhan berthnasol o’r corff dynol, cynnal neu adfer cyflwr y rhan honno neu newid ei golwg; a
“rhan berthnasol o’r corff dynol” (“relevant human body part”) yw—
unrhyw ran allanol o’r corff dynol (gan gynnwys unrhyw ran o’r epidermis, y system gwallt a blew, yr ewinedd neu’r gwefusau);
y dannedd; neu
pilenni mwcaidd ceudod y geg;
Mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr “diben awdurdodedig” (“authorised purpose”) yw at ddiben penderfynu pa un a yw trosedd o dan reoliad 3(1) neu 3(2) wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu at ddiben penderfynu pa un a yw unrhyw ofyniad hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad stop neu ymgymeriad gorfodaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi ei dorri neu’n cael ei dorri ai peidio;
mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(b) o’r Atodlen;
mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 9(2) o’r Atodlen;
ystyr “microbelen” (“microbead”) yw unrhyw ronyn plastig solet sy’n annhoddadwy mewn dŵr sy’n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad;
ystyr “plastig” (“plastic”) yw sylwedd polymerig synthetig y gellir ei fowldio, ei allwthio neu ei drin yn ffisegol i lunio ffurfiau solet amrywiol ac sy’n cadw ei siâp gwneuthuredig terfynol wrth ei ddefnyddio at ei ddefnyddiau bwriadedig;
ystyr “y rheoleiddiwr” (“the regulator”), at ddibenion gorfodi trosedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1), mewn perthynas ag unrhyw fan lle y gweithgynhyrchir cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu y cyflenwir y cynnyrch hwnnw, yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal y mae’r man hwnnw ynddi;
ac at y diben hwn ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
mae i “ymgymeriad gorfodaeth” (“enforcement undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 17 o’r Atodlen; ac
mae i “ymgymeriad trydydd parti” (“third party undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(1) o’r Atodlen.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae person sy’n defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu unrhyw gynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd yn euog o drosedd.
(2) Mae person sy’n cyflenwi neu’n cynnig cyflenwi unrhyw gynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd sy’n cynnwys microbelenni yn euog o drosedd.
(3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) neu (2) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mewn achos am drosedd o dan reoliad 3(2), mae’n amddiffyniad i berson (“P”) ddangos bod P wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
(2) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad trydydd parti oni bai bod P wedi—
(a)cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (3); neu
(b)cael caniatâd y llys.
(3) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant P sy’n enwi’r person, neu sydd o gymorth o ran cael gwybod pwy oedd y person—
(i)a gyflawnodd y weithred neu ddiffyg; neu
(ii)a gyflenwodd yr wybodaeth yr oedd P yn dibynnu arni; a
(b)cael ei gyflwyno i’r person sy’n dwyn yr achos nid llai na 7 diwrnod clir cyn gwrandawiad yr achos.
(4) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall, oni bai ei bod yn rhesymol i P ddibynnu ar yr wybodaeth, gan roi sylw penodol i—
(a)y camau a gymerwyd gan P, a’r rheini y gellid yn rhesymol bod wedi eu cymryd, at ddiben gwirhau’r wybodaeth; a
(b)pa un a oedd gan P unrhyw reswm i beidio â chredu’r wybodaeth.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “honiad trydydd parti” yw honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i—
(a)gweithred neu ddiffyg person arall; neu
(b)dibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Caniateir i unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â throsedd o dan reoliad 3 neu 10 y gellir ei rhoi ar brawf gan lys ynadon gael ei rhoi ar brawf os caiff ei gosod o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad y daw’r erlynydd i wybod am dystiolaeth sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos.
(2) Ni chaniateir dwyn unrhyw achos fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Caiff y rheoleiddiwr awdurdodi unrhyw berson i arfer, at ddiben awdurdodedig ac yn unol â thelerau’r awdurdodiad, unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn rheoliadau 8 a 9, os ymddengys i’r rheoleiddiwr bod y person hwnnw yn addas i’w arfer neu i’w harfer.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.
(3) Yn y Rhan hon, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person a awdurdodir o dan baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
7. Mae’r Atodlen (sancsiynau sifil) yn cael effaith at ddiben gorfodi trosedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Y pwerau y caniateir awdurdodi swyddog gorfodaeth i’w harfer yw—
(a)cynnal yr archwiliadau a’r ymchwiliadau hynny a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau;
(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae gan swyddog gorfodaeth sail resymol i gredu y gall roi unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (a) uchod i ateb (yn absenoldeb personau ac eithrio person a enwebir gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caiff y person awdurdodedig ganiatáu iddynt fod yn bresennol) y cwestiynau hynny y mae’r swyddog gorfodaeth yn meddwl ei bod yn addas i’w gofyn ac i lofnodi datganiad o wirionedd ei atebion; ac
(c)ei gwneud yn ofynnol i ddangos unrhyw gofnodion y mae’n angenrheidiol i’r swyddog gorfodaeth eu gweld at ddibenion archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (a) uchod, ac i weld unrhyw gofnod yn y cofnodion a chymryd copïau ohono neu ohonynt, neu pan fo’r wybodaeth honno wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno detholiadau o’r cofnodion hynny.
(2) Nid oes dim yn yr adran hon yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai gan y person hwnnw hawl ar sail braint broffesiynol gyfreithiol i atal ei dangos o gael gorchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Y pwerau y caniateir awdurdodi swyddog gorfodaeth i’w harfer yw—
(a)mynd ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd) y mae gan y swyddog gorfodaeth reswm i gredu ei bod yn angenrheidiol i fynd iddi at ddiben awdurdodedig;
(b)pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan is-baragraff (a)—
(i)mynd yng nghwmni swyddog gorfodaeth arall; a
(ii)dod ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau sy’n ofynnol at y diben awdurdodedig o dan sylw;
(c)wrth fynd i unrhyw fangre o dan is-baragraff (a)—
(i)arfer y pwerau yn rheoliad 8(2); a
(ii)cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.
(d)o ran unrhyw fangreoedd y mae gan swyddog gorfodaeth y pŵer i fynd iddynt o dan is-baragraff (a), roi cyfarwyddyd bod rhaid gadael y mangreoedd hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu unrhyw beth ynddynt, heb ymyrryd â hwy (pa un ai’n gyffredinol neu o ran agweddau penodol) am gyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol at ddiben archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);
(e)cymryd unrhyw samplau, neu beri i samplau gael eu cymryd, o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir mewn neu ar unrhyw fangre y mae gan swyddog gorfodaeth y pŵer i fynd iddi o dan is-baragraff (a), a pheri i unrhyw eitemau neu sylweddau o’r fath gael eu dadansoddi neu eu profi;
(f)yn achos unrhyw sampl o’r fath, cymryd meddiant ohoni a’i chadw am gyhyd ag sy’n angenrheidiol at yr holl ddibenion a ganlyn, neu unrhyw un neu ragor ohonynt—
(i)ei harchwilio, a chynnal unrhyw broses neu brofion arni, neu beri iddi gael ei harchwilio;
(ii)sicrhau nad ymyrrir â’r sampl cyn cwblhau’r archwiliad;
(iii)sicrhau ei bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Ac eithrio mewn achos brys, pan fo swyddog gorfodaeth yn bwriadu mynd i unrhyw fangre a—
(a)bod mynediad wedi ei wrthod neu fod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol bod mynediad yn debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol y gall y defnydd o rym rhesymol fod yn angenrheidiol i gael mynediad,
ni chaniateir mynd i’r mangreoedd hynny yn rhinwedd paragraff (1)(a) ond o dan awdurdod gwarant.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(c)(iii) yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai gan y person hwnnw hawl ar sail braint broffesiynol gyfreithiol i atal ei dangos o gael gorchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu yn yr Uchel Lys.
(4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth arfer y pwerau ym mharagraff (1) ond ar sail cred resymol bod trosedd o dan reoliad 3 wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni.
(5) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o’i awdurdod os gofynnir iddo gan berson sy’n, neu yr ymddengys ei fod yn—
(a)cyflenwr cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu gyflogai cyflenwr o’r fath;
(b)gweithgynhyrchwr cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu gyflogai gweithgynhyrchwr o’r fath; neu
(c)perchennog neu feddiannydd unrhyw fangre y mae’r swyddog gorfodaeth yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, wrth ymateb i bwerau a arferir o dan reoliadau 8 a 9—
(a)yn methu â chyflenwi i swyddog gorfodaeth unrhyw wybodaeth, ddogfennau neu gofnodion y gofynnir amdanynt;
(b)yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog gorfodaeth; neu
(c)yn rhwystro swyddog gorfodaeth yn fwriadol.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Pa fo’r rheoleiddiwr yn gosod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3 neu 10, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi—
(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt;
(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt; ac
(c)yr achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodaeth ynddynt.
(2) Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r rheoleiddiwr yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3 neu 10.
(2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol a nodir ym mharagraff (3).
(3) Yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw gwybodaeth ynghylch—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod;
(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod;
(c)hawliau i gyflwyno sylwadau a hawliau i apelio; a
(d)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano’i hun).
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol.
(5) Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Rhaid i ganllawiau o dan adran 64 o Ddeddf 2008 sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a chostau adennill gorfodaeth (yn ogystal â’r materion a bennir yn adran 64(2)) bennu—
(a)o dan ba amgylchiadau na chaniateir eu gosod;
(b)materion i roi sylw iddynt wrth bennu’r swm o dan sylw; a
(c)hawliau i apelio.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i “cosb am beidio â chydymffurfio” yr ystyr a roddir gan baragraff 24(1) o’r Atodlen.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, gynnal adolygiad o weithrediad y darpariaethau yn Rhan 3 (Gorfodaeth a Sancsiynau Sifil) a’r Atodlen;
(b)o bryd i’w gilydd gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth reoleiddiol a geir yn y Rheoliadau hyn (gan gynnwys Rhan 3 a’r Atodlen); ac
(c)cyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau unrhyw adolygiad.
(2) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a)—
(a)mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad ystyried yn benodol pa un a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei hamcanion mewn modd effeithlon ac effeithiol ai peidio;
(b)rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal yr adolygiad, ymgynghori â’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol; ac
(c)rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(c) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
19 Mehefin 2018
Rheoliadau 2, 7, 13(2) a 14(1)
1.—(1) Mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1) caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o’r swm hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”); neu
(b)gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”).
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(4) Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 3 neu 10(1)(a) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £5000.
(5) Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 10(1)(b) neu 10(1)(c) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £20,000.
(6) Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 1 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn bwriadu cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig neu’r gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig;
(b)gofynion yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu; ac
(c)gwybodaeth ynghylch—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol amrywiadwy neu’r hysbysiad cydymffurfio.
(3) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r bwriad i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 2 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran cam gweithredu i’w gymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. para. 3 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—
(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt; neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan y Rhan hon.
(2) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5, yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu baragraff 6, yn achos hysbysiad cydymffurfio.
(3) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbynnir ganddo wrth benderfynu—
(a)pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio; a
(b)swm unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. para. 4 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
5. Rhaid i hysbysiad terfynol am gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y gellir talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
(e)hawliau i apelio, ac
(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. para. 5 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
6. Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid eu cwblhau;
(c)hawliau i apelio; a
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. para. 6 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(f)unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. para. 7 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Os—
(a)cyflwynir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i unrhyw berson, neu
(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaiff y person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson;
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw; ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. para. 8 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).
(2) “Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgarwch a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—
(a)bod y person yn ymgymryd â’r gweithgarwch;
(b)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac
(c)bod y gweithgarwch, fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.
(4) Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu yn rhesymol—
(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch;
(b)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn achosi niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath; ac
(c)y bydd y gweithgarwch, fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef, yn cynnwys cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2), neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o’r fath.
(5) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. para. 9 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
10. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad;
(b)y camau y mae’n rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;
(c)hawliau i apelio; a
(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. para. 10 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(g)unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. para. 11 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a chyflwyno hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. para. 12 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
13. Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau bod y penderfyniad—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn annheg neu’n afresymol;
(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. para. 13 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
14. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am y golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os—
(a)caiff hysbysiad stop ei dynnu yn ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(b)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu
(c)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. para. 14 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
15. Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad—
(a)ar y seiliau bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y seiliau bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir;
(c)am unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. para. 15 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn [F1hwy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)], neu’r ddau; neu
(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.
(2) Mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i [F2baragraff 24(2) o Atodlen 22 i Ddeddf Dedfrydu 2020] ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(a) at [F3y terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] i’w ddarllen fel cyfeiriad at chwe mis.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. para. 16(1)(a) wedi eu hamnewid (7.2.2023 am 12.00 p.m.) gan The Judicial Review and Courts Act 2022 (Magistrates’ Court Sentencing Powers) Regulations 2023 (O.S. 2023/149), rhlau. 1(2), 36(2)
F2Geiriau yn Atod. para. 16(2) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 446(3) (ynghyd ag Atod. 24 para. 447, Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2
F3Geiriau yn Atod. para. 16(2) wedi eu hamnewid (7.2.2023 am 12.00 p.m.) gan The Judicial Review and Courts Act 2022 (Magistrates’ Court Sentencing Powers) Regulations 2023 (O.S. 2023/149), rhlau. 1(2), 36(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. para. 16 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (sef “ymgymeriad gorfodaeth”) a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr seiliau rhesymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 3(1) neu (2).
(2) At ddibenion y Rhan hon, mae “ymgymeriad gorfodaeth” yn ymgymeriad ysgrifenedig i gymryd y camau hynny a bennir yn yr ymgymeriad o fewn y cyfnod hwnnw a bennir.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. para. 17 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodaeth bennu—
(a)cam gweithredu i sicrhau nad yw’r drosedd yn digwydd eto;
(b)cam gweithredu (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno; neu
(c)cam gweithredu a fydd yn sicrhau budd amgylcheddol sy’n cyfateb i adfer yr hyn a ddifrodwyd neu a ddinistriwyd gan gyflawni’r drosedd, neu’r hyn sy’n debygol o fod wedi ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan gyflawni’r drosedd.
(2) Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu.
(3) Rhaid iddo gynnwys—
(a)datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon;
(b)telerau’r ymgymeriad; ac
(c)gwybodaeth ynghylch sut a phryd yr ystyrir bod y person sy’n rhoi’r ymgymeriad hwnnw wedi cyflawni’r ymgymeriad.
(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodaeth, neu ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r cam gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. para. 18 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
19. Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodaeth, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—
(a)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud ag ef; a
(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu anweithred honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. para. 19 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
20.—(1) Os yw’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.
(2) Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.
(3) Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif o’r fath.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. para. 20 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
21. Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y seiliau bod y penderfyniad—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn annheg neu’n afresymol;
(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. para. 21 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodaeth i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
(2) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 20 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. para. 22 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
23.—(1) Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodaeth, caiff y rheoleiddiwr naill ai—
(a)cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop; neu
(b)dwyn achos troseddol.
(2) Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodaeth, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.
(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod y mae ymgymeriad gorfodaeth yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. para. 23 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn gosod cosb ariannol (sef “cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth pa un a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.
(4) Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y mae’n rhaid talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
(e)yr hawl i apelio;
(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig; ac
(g)o dan ba amgylchiadau y caiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. para. 24 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau ar gyfer apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm arall;
(d)bod swm y gosb yn afresymol;
(e)unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. para. 25 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
26. Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad sy’n gosod cosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau’r swm a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. para. 26 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (sef “hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y cyflwynwyd hysbysiad perthnasol iddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â gosod y gofyniad a osodwyd gan yr hysbysiad perthnasol hyd at yr adeg y’i gosodwyd.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr “hysbysiad perthnasol” yw hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop.
(3) Mae “costau” yn cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(4) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
(a)sut y mae’n rhaid talu;
(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu. Ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau;
(c)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(d)yr hawl i apelio; ac
(e)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
(5) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
(6) Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. para. 27 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
28. Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny;
(c)am unrhyw reswm arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. para. 28 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
29. Caiff y rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio a osodir o dan yr Atodlen hon fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. para. 29 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Mae apêl o dan baragraff 7, 11, 13, 15, 21, 25 neu 28 o’r Atodlen hon yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad o dan yr Atodlen hon—
(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;
(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;
(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;
(d)cymryd y camau hynny y gallai’r rheoleiddiwr fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad; neu
(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. para. 30 mewn grym ar 30.6.2018, gweler rhl. 1(2)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwahardd defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu cynhyrchion gofal personol i’w rinsio i ffwrdd ac yn gwahardd gwerthu unrhyw gynhyrchion o’r fath sy’n cynnwys microbelenni (rheoliad 3). Mae torri’r gwaharddiad hwn yn drosedd (rheoliad 3). Mae diffiniadau o “microbelen” a “cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd” wedi eu cynnwys yn rheoliad 2. Bydd y gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu unrhyw gynhyrchion o’r fath yn dod i rym ar 30 Mehefin 2018.
Mae cyfundrefn sancsiynau sifil yn cael ei chyflwyno hefyd i alluogi’r rheoleiddiwr i osod ystod o sancsiynau sifil (rheoliad 7 a’r Atodlen). Mae’r rhain yn cynnwys cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop. Caiff y rheoleiddiwr hefyd dderbyn ymgymeriadau gorfodaeth. Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau hyn a’r mecanweithiau apelio sydd ar gael. Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad stop yn drosedd (paragraff 16 o’r Atodlen). Mae’r holl apelau sy’n ymwneud â sancsiynau sifil i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Mae rheoliad 8 yn rhoi pwerau i swyddogion gorfodaeth gynnal ymchwiliadau at ddiben awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2).
Mae rheoliad 9 yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion gorfodaeth i gynnal ymchwiliad at ddiben awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2).
Mae rheoliad 10 yn creu troseddau sy’n gysylltiedig â phwerau swyddogion gorfodaeth yn rheoliadau 8 a 9.
Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodaeth a gymerir gan y rheoleiddiwr, ac mae rheoliadau 12 a 13 yn darparu bod rhaid llunio canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil ac ymgynghori arnynt, ac yn pennu’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn canllawiau o’r fath.
Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu’r Rheoliadau.
Mae rheoleiddwyr yn gallu adennill costau gorfodaeth (paragraff 27 o’r Atodlen) yn achos cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb (EU) 2015/1535 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 9 Medi 2015 a oedd yn gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes rheoliadau technegol a rheolau sy’n ymwneud â gwasanaethau’r Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L 241, 17.9.2015, t. 1).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2008 p. 13. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i “y rheoleiddiwr” yr ystyr a roddir gan reoliad 2, yn hytrach na’r ystyr a roddir i “the regulator” gan adran 37 o Ddeddf 2008.
Diwygiwyd adran 140(3)(c) gan O.S. 1999/1108. Yn rhinwedd erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae’r pwerau o dan adran 140 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Diwygiwyd adran 36(2) gan adran 21(1) a (2)(f) o Ddeddf Menter 2016; diwygiwyd adran 42(6) gan O.S. 2015/664; diwygiwyd adran 49(1) gan O.S. 2015/664.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: