- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Nid yw person yn cymhwyso i gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y person yn gwneud cais am y benthyciad hwnnw.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru;
(b)dod gydag unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru; ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 11.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 9.
(2) Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth bellach sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad ar gais o dan reoliad 9.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais o dan reoliad 9 gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gais i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o dan reoliad 13(3) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd y cwrs y mae cyfnod arferol y cofrestriad yn dod i ben ynddi.
(3) Nid yw paragraffau (1) neu (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.
12.—(1) Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.
(2) O ran y contract—
(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a
(b)caiff fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),
a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff y contract ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ad-dalu benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig drwy ddull penodol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cytundeb y myfyriwr ynghylch y dull ad-dalu yn ofynnol, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y myfyriwr yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: