Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 3

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/03/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 12/03/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rheoliadau 48, 65(3), 66(2)(a) a 70(3)

ATODLEN 3LL+CCyfrifo incwm

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Trosolwg o’r AtodlenLL+C

1.—(1Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn.

(2Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion penderfynu ar swm—

(a)grant cynhaliaeth (gweler rheoliadau 46 a 47),

(b)grant at deithio (gweler rheoliadau 65 a 66), neu

(c)grantiau ar gyfer dibynyddion (gweler Rhan 11),

sy’n daladwy i’r myfyriwr.

(3Mae Rhan 3 yn nodi ystyr “incwm trethadwy”, sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo incwm gweddilliol person.

(4Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol pan fo—

(a)Pennod 1 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr, a

(b)Pennod 2 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol y personau eraill a ganlyn—

(i)rhiant myfyriwr cymwys, partner myfyriwr cymwys neu bartner rhiant myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr;

(ii)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

(5Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net—

(a)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

(b)plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

(6Mae Rhan 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CIncwm yr aelwyd

Incwm aelwyd myfyriwr cymwysLL+C

2.  Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm yr aelwydLL+C

3.—(1Mae incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Os nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol (gweler paragraff 4), cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr A.

Os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr B.

  • Rhestr A

  • Y personau yw—

(a)y myfyriwr cymwys, plws

(b)naill ai—

(i)pob un o rieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5), neu

(ii)pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, y rhiant a ddewisir o dan baragraff 6(3) a phartner y rhiant hwnnw (os oes un gan y rhiant hwnnw), (yn ddarostyngedig i baragraff 7).

Rhestr B

Y personau yw—

(a)y myfyriwr cymwys annibynnol, plws

(b)partner y myfyriwr (os oes un gan y myfyriwr), (yn ddarostyngedig i baragraffau 7 ac 8).

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys didyniad plentyn dibynnol (gweler is-baragraffau (2) i (4)) a didynnu hynny o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1.

Y canlyniad yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys.

(2Mae didyniad plentyn dibynnol yn ddidyniad a wneir mewn cysylltiad â phob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar—

(a)y myfyriwr cymwys,

(b)partner y myfyriwr cymwys,

(c)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(d)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

pan fo incwm y person hwnnw yn cael ei ystyried at ddibenion cyfrifo incwm yr aelwyd.

(3Ond nid oes didyniad i’w wneud mewn cysylltiad â phlentyn—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

os y myfyriwr cymwys yw’r plentyn.

(4Yn Nhabl 15, mae Colofn 2 yn nodi swm y didyniad plentyn dibynnol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 15

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Swm y didyniad plentyn dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£1,130

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr cymwys annibynnolLL+C

4.—(1Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae’r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol.

Achos 2

Mae’r myfyriwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn parhau i fod ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Achos 3

Nid oes gan y myfyriwr riant sy’n fyw.

Achos 4

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)na ellir dod o hyd i’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr, neu

(b)nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr.

Achos 5

Naill ai—

(a)nid yw’r myfyriwr wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn neu fwy sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, neu

(b)ym marn Gweinidogion Cymru, mae’r myfyriwr wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ar seiliau eraill mewn ffordd lle nad oes modd cymodi.

Achos 6

Mae rhieni’r myfyriwr yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(c)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm y rhieni yn gosod y rhieni hynny mewn perygl, neu

(d)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni anfon arian i’r Deyrnas Unedig at ddibenion rhoi cymorth i’r myfyriwr.

Achos 7

Pan fo paragraff 6 (rhieni sy’n gwahanu) yn gymwys, mae’r rhiant a ddewisir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw wedi marw, ni waeth a oedd gan y rhiant hwnnw bartner ai peidio.

Achos 8

Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, mae gan y myfyriwr ofal dros berson sydd o dan 18 oed.

Achos 9

Mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

Achos 10

Pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol yn rhinwedd Achos 9 mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd, mae’r myfyriwr yn parhau i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol ar gyfer unrhyw flwyddyn academaidd ddilynol o’r cwrs dynodedig.

Achos 11

Mae’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 49.

(2At ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys—

Sail 1

Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.

Sail 2

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.

Sail 3

Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru corff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.

Sail 4

Roedd gan y myfyriwr cymwys efrydiaeth wladol neu ddyfarndal tebyg.

Sail 5

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael pensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd, anaf neu salwch y myfyriwr neu am reswm sy’n gysylltiedig â geni plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhiant myfyriwr cymwys yn marw gan adael rhiant sydd wedi goroesiLL+C

5.—(1Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys yn marw cyn y flwyddyn academaidd gyfredol, a

(b)incwm y rhiant hwnnw wedi, neu y byddai incwm y rhiant hwnnw wedi, cael ei ystyried at ddiben penderfynu ar incwm yr aelwyd,

dim ond incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi a gyfrifir yn gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52, a

(b)incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

Pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y ddau riant yn fyw, ac

Y yw nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhieni myfyriwr cymwys yn gwahanuLL+C

6.—(1Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52; a

(b)incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac

Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.

(3Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartnerLL+C

7.  Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).

(3Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—

X×C/52

Pan—

  • X yw incwm gweddilliol—

    (a)

    partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu

    (b)

    partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,

    ar gyfer y flwyddyn academaidd gymwys;

  • C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—

    (a)

    rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu

    (b)

    y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,

    wedi gwahanu.

(4Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwysLL+C

8.  Pan fo—

(a)myfyriwr cymwys annibynnol (A) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (PA) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (M), a

(b)dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,

nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CIncwm trethadwy

Incwm trethadwyLL+C

9.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—

(a)cyfanred—

(i)cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(1), a

(ii)os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(2) a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu

(b)pan fo deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’u penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

(3Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CIncwm gweddilliol

PENNOD 1LL+CIncwm gweddilliol myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysLL+C

10.  At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—

Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol

Plws

Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysLL+C

11.  At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—

Didyniad A

Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu

(b)cyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,

fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.

Didyniad B

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(3); neu

(b)pan fo incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm.

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm myfyriwr cymwys a geir mewn arian cyfred ac eithrio sterlingLL+C

12.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—

(a)swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu

(b)pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.

(2Cyfradd gyfnewid CThEM(4) yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CIncwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddyntLL+C

13.  Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

(a)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys—

(i)rhiant y myfyriwr cymwys,

(ii)partner y myfyriwr cymwys, neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd;

(b)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

14.  Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

15.—(1At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

16.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

(2Oni bai bod is-baragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm o fusnes neu broffesiwnLL+C

17.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwmLL+C

18.—(1Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.

(2Y rhesymau yw—

Rheswm 1

(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

(3Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterlingLL+C

19.—(1Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol a’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

(2Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CIncwm net dibynyddion

Incwm net dibynyddionLL+C

20.  Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net y dibynyddion a ganlyn—

(a)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

(b)plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm netLL+C

21.—(1Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell ar gyfer y flwyddyn berthnasol wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno ond gan ddiystyru—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran 9 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(6);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(7);

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(8) neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(9);

(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(10);

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol â—

(i)adran 24 o’r Ddeddf honno(11), neu

(ii)adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(12);

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(13)

(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(14), mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch cysylltiedig â gwaith,

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (15) (elfen y plentyn).

(2At ddibenion y paragraff hwn, trinnir taliadau a wneir i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth plentyn dibynnol fel incwm y plentyn dibynnol.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn berthnasol” yw—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn academaidd gyfredol;

(b)mewn cysylltiad â phlentyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn ariannol gymwys a benderfynir o dan baragraff 22.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm net plant dibynnol myfyriwr cymwysLL+C

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm net plentyn dibynnol myfyriwr cymwys (“Pl”).

(2Oni bai bod paragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CDehongli

DehongliLL+C

23.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

(a)priod neu bartner sifil A; neu

(b)person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

ystyr “BG” (CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16 neu 22;

ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

(a)

adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(16) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)(17), neu

(b)

Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(18) sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2) a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 17, paragraff 19.

(2)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(3)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(6)

2002 p. 38. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131). Diwygiwyd adran 4 gan O.S. 2010/1158; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5, paragraffau 104 a 105; a chan S.I. 2013/160.

(7)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf Budd-dal Plant 2005, adran 1(3), Atodlen 1, Rhan 1, paragraffau 1 a 4, Deddf Credydau Treth 2002, Atodlen 6, Deddf Partneriaeth Sifil 2004, adran 254(1), Atodlen 24, Rhan 3, paragraff 34.

(8)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adrannau 8 a 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2, paragraff 30.

(10)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru ac mae O.S. 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.

(11)

Diwygiwyd adran 24 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 4(1), Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p, 38), adran 139 ac Atodlen 3, paragraff 60, O.S. 2007/961 (Cy. 85), paragraff 20(2)(b), O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 2, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adran 55 ac Atodlen 5, paragraff 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliad 81.

(13)

2012 p. 5.

(14)

O.S. 2013/376. Diwygiwyd rheoliad 27 gan O.S. 2017/204, rheoliad 4.

(15)

Mae rheoliad 24 o O.S. 2013/376, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/2088 a Deddf Diwygio Lles a Gwaith 2016 (p. 7), adran 14, yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch elfen y plentyn o ddyfarndal.

(16)

1973 p. 18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(17)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlen 6, paragraffau 1 a 6 ac Atodlen 11, Rhan 4.

(18)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources