Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 16

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 27/03/2020

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/03/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018, ATODLEN 16. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Erthygl 39(3)

ATODLEN 16LL+CPydredd coch tatws

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron), ac eithrio gwir hadau, Solanum tuberosum L. neu blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), yn [F1Rhannau A i C], yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 16 para. 1 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN ALL+CMesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws

[F2Arolygon swyddogol a phrofion swyddogolLL+C

1A.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systematig blynyddol yn cael eu cynnal i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n tarddu o Gymru yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC .

1B.  Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—LL+C

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau pa un a yw’n bresennol ai peidio—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwywyd yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu beidio, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth o bresenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y prawf sgrinio a bennir ym mhwynt 2 o adran 1 ac adran 3 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC—

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, ac eithrio’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, wedi ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;

(ii)bod camau yn cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir; a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg dybiedig yn cael eu gweithredu er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

1C.  Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion paragraff 1B(b)(i) i (iii).]LL+C

[F3RHAN BLL+C

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatwsLL+C

1D.  Os yw presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 1B, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y rhoddir y camau gweithredu a bennir ym mharagraffau 1E i 1G ar waith yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion cynhaliol Pydredd coch tatws.

1E.  Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau gweithredu yw—LL+C

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi a phrif ffynonellau’r halogi yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)cynnal profion swyddogol pellach, gan gynnwys cynnal profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd bod y pethau a ganlyn wedi eu halogi—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gyffyrddiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned gynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd ynghylch graddau’r halogi tebygol drwy ddod i gyffyrddiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltiadau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan is-baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

1F.  Yn achos planhigion cynhaliol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau gweithredu yw—LL+C

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi a phrif ffynonellau’r halogi yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)dynodi gan arolygydd bod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd o ran yr halogi tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan is-baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

1G.  Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau gweithredu yw—LL+C

(a)cynnal ymchwiliad gan arolygydd i ganfod graddau’r halogi, sy’n cynnwys cynnal arolygon swyddogol, ar adegau priodol, o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan is-baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd o ran yr halogi tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan is-baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd ar sail y dynodiad o dan is-baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan is-baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.]

[F4RHAN C]LL+C

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatwsLL+C

2.  Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 16 para. 2 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

3.  [F5Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu unrhyw wrthrych wedi ei ddynodi yn halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan Ran B, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol]LL+C

(a)[F6yn achos] deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau [F7, fod y deunydd] yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)[F8yn achos] deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau [F9, fod y deunydd] yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)[F10yn achos] gwrthrych halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl [F10, fod y gwrthrych] yn cael ei—

(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy [F11bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 16 para. 3 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

4.  Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 16 para. 4 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

5.  [F12Rhaid i] arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd o dan [F13Rhan B]

(a)yn achos cae halogedig neu uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig a, phan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 16 para. 5 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

6.  Y set gyntaf o fesurau dileu yw—LL+C

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws [F14neu domatos] cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, [F15yn ystod arolygiadau swyddogol] am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu [F16, a bod y cloron neu blanhigion tomato a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC]; a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu hadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 16 para. 6 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

7.  Yr ail set o fesurau dileu yw—LL+C

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum mlynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, bod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar;

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes unrhyw risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)[F17yn ystod y bedwaredd a’r pumed flwyddyn dyfu,] mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned; a

(iii)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw [F18, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol, planhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu blanhigion tomato a gynaeafir yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 16 para. 7 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

8.  Y drydedd set o fesurau dileu yw—LL+C

(a)gofyniad mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf [F19nid yw unrhyw blanhigion cynhaliol Pydredd coch tatws i’w plannu neu]

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, ar gyfer cynhyrchu ffrwythau;

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw planhigion tomatos i’w plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(d)yn achos tatws, gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta;

(e)yn achos tomatos, gofyniad mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol ar gyfer cynhyrchu planhigion neu ffrwythau; ac

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws[F20;

(g)arolygon swyddogol ar adegau priodol o gnydau sy’n tyfu a chynnal profion swyddogol ar datws a gynaeafir yn unol â’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 16 para. 8 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

9.  [F21Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad o dan Ran D, rhaid i hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig]LL+C

(a)ei gwneud yn ofynnol, am gyfnod penodedig, bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws neu domatos gael eu glanhau a, phan fo’n briodol, eu diheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;

(b)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 16 para. 9 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

10.  Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 16 para. 10 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchuddLL+C

11.  Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron, planhigion tatws na gwir hadau tatws, planhigion tomatos na hadau tomatos na phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 16 para. 11 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

12.  Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—LL+C

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws [F22ac i symud ymaith holl blanhigion cynhaliol Pydredd coch tatws] a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac

(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddir yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd coch tatws a symud ymaith yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 16 para. 12 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

13.  Caiff awdurdodiad o dan baragraff 11—LL+C

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 16 para. 13 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

[F23RHAN D ]LL+CDarnodi parthau rheoli Pydredd coch tatws

Diwygiadau Testunol

14.  Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo arolygydd wedi darnodi parth mewn perthynas ag achos o gadarnhau bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan [F24Rhan B].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 16 para. 14 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

15.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad—LL+C

(a)am ba mor hir y mae’r parth i barhau i fod wedi ei ddarnodi;

(b)y mesurau sy’n gymwys yn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 16 para. 15 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

16.  Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff 15—LL+C

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(c)rhaid iddo bennu, mewn perthynas â phob mesur, pa un a yw’n gymwys yn gyffredinol neu i grynhofa dŵr wyneb yn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(d)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae pob mesur yn cael effaith;

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac

(f)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 16 para. 16 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

17.  Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth sydd wedi ei ddarnodi ac yn rhannol y tu allan i barth sydd wedi ei ddarnodi fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan na fo’r rhan sydd y tu allan i’r parth sydd wedi ei ddarnodi yng Nghymru.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 16 para. 17 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

18.  Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—LL+C

(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(b)unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig;

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi y mae’r person yn ei meddiannu neu â gofal amdani; ac

(c)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgarwch arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 16 para. 18 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

19.  [F25Rhaid i hysbysiad o dan baragraff 15 bennu]

(a)bod rhaid glanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu [F26gyfleusterau storio] mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drafod cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, [F27yn ystod y cyfnod penodedig] mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(c)[F28yn ystod y cyfnod penodedig] bod rhaid trafod tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trafod tatws hadyd a thatws bwyta;

(d)yn achos cnydau tomatos, [F29yn ystod y cyfnod penodedig] mai dim ond planhigion tomatos a dyfir o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(e)ni chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, phan fo’n berthnasol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd;

(f)os yw gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol yn y parth sy’n trafod deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd.

20.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond pennu—LL+C

(a)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(a) i (d) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(e) ac (f) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 16 para. 20 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

[F3021.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, yn ystod y cyfnod penodedig—LL+C

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trafod cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

22.  At ddibenion paragraffau 19 ac 21, ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i’r cyfnod hwnnw fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth perthnasol ynddi.]LL+C

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources