- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
41.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy drwydded, awdurdodi cyflwyno, symud neu gadw unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar gyfer unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol, pan fyddai cyflwyno, symud neu gadw’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol at unrhyw ddiben o’r fath wedi ei wahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall, os yw Gweinidogion Cymru—
(a)wedi cael cais am drwydded sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC; a
(b)wedi eu bodloni bod yr amodau cyffredinol a nodir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r cais.
(2) Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys—
(a)unrhyw amodau a osodir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC sy’n berthnasol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol sy’n destun y gweithgareddau y mae’r drwydded yn ymwneud â hwy; a
(b)unrhyw amodau eraill sy’n pennu mesurau cwarantin o dan baragraff 2(a) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu fesurau cwarantin pellach o dan baragraff 2(b) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu trwydded a roddir o dan baragraff (1) pan ganfyddir, er boddhad Gweinidogion Cymru, nad yw’r trwyddedai wedi bodloni neu gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded a osodir o dan baragraff (2)(b).
(4) Ar ôl i unrhyw weithgareddau y mae’r drwydded a roddir o dan baragraff (1) yn ymwneud â hwy ddod i ben, rhaid i’r trwyddedai, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel arall o dan baragraff (5)—
(a)difa neu sterileiddio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol a oedd yn destun y gweithgareddau ac unrhyw ddeunydd perthnasol arall sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fath, neu a allai fod wedi ei halogi ganddo; a
(b)sterileiddio neu lanhau mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, y fangre a’r cyfleusterau y cyflawnwyd y gweithgareddau ynddynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r trwyddedai i ymatal rhag difa unrhyw ddeunydd perthnasol o dan baragraff (4)(a) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod wedi bod yn destun mesurau cwarantin priodol ac y canfuwyd, mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion a bennir yn Atodlen 1 ac yng ngholofn 3 o Atodlen 2 a rhag plâu planhigion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn peri risg.
(6) At ddiben paragraff (2), mae cyfeiriadau at y “responsible official body” yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC, ac Atodiad I iddi, i’w cymryd fel pe baent yn cyfeirio at Weinidogion Cymru.
(7) Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau cwarantin priodol” (“appropriate quarantine measures”) yw—
(a)yn achos deunydd perthnasol y mae mesurau cwarantin wedi eu pennu ar ei gyfer yn Rhan A o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/61/EC, y mesurau hynny; a
(b)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol arall, unrhyw fesurau cwarantin, gan gynnwys profi, a bennir gan Weinidogion Cymru.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: