- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Rhaid i awdurdod cofrestru sydd wedi llunio datganiad o gynnig yn unol â rheoliad 7(1), cyn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cynnig, gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5).
(2) Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi ar ei wefan hysbysiad o’r cynnig.
(3) Os y cynnig yw cofrestru neu ddatgofrestru unrhyw dir yn dir comin neu’n faes tref neu bentref, rhaid i’r awdurdod cofrestru arddangos hysbysiad o’r cynnig am ddim llai na 42 o ddiwrnodau wrth neu gerllaw o leiaf un fynedfa amlwg (neu, os nad oes mannau o’r fath, wrth neu gerllaw o leiaf un man amlwg ar y ffin) i’r tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef.
(4) Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i’r personau a ganlyn—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (7), perchennog unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi;
(b)unrhyw berson sydd wedi gwneud datganiad, a gofnodwyd yn briodol yn y gofrestr, o hawlogaeth i hawl comin dros unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi;
(c)unrhyw gyngor tiroedd comin a sefydlir ar gyfer tir sy’n cynnwys y tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef;
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (8), unrhyw berchennog hawl comin mewn gros sy’n arferadwy dros unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi; ac
(e)pob awdurdod lleol arall yn yr ardal honno.
(5) Rhaid i’r awdurdod cofrestru hefyd gyflwyno hysbysiad o’r cynnig drwy e-bost i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn yn flaenorol i gael gwybod am yr holl gynigion, ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost i’r awdurdod cofrestru at y diben hwnnw.
(6) Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (3), heb unrhyw fai ar yr awdurdod cofrestru nac unrhyw fwriad ganddo, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fynd heibio, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.
(7) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4)(a) yn gymwys os nad yw’n rhesymol ymarferol nodi pwy yw’r person hwnnw.
(8) Caiff yr awdurdod cofrestru, mewn perthynas ag unrhyw gynnig, benderfynu nad yw paragraff (4)(d) i fod yn gymwys, os yw’n ystyried bod y personau sydd wedi eu cofrestru fel perchnogion hawliau comin mewn gros mor niferus fel na fyddai’n rhesymol ymarferol iddo gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i bob un ohonynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: