- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
87.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
(2) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.
(3) At ddibenion paragraff (2) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 85(2) a (3).
(4) Uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser at ddibenion paragraff (5) yw £1,155.
(5) Cyfrifir swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig fel a ganlyn—
(a)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ar ddyddiad y cais am y grant, hawlogaeth—
(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;
(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
(iv)i gredyd cynhwysol; neu
(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
(b)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £26,095;
(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180 swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
(d)mae grant newydd at gyrsiau rhan-amser o £50 yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180;
(e)nid oes grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael pan fo’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd gyfrifoldeb rhiant amdano;
(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu mewn perthynas â hi ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser o dan y rheoliad hwn;
(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw yn ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar ei gyfer at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
(e)ystyr “incwm” (“incwm”) yw incwm gros o bob ffynhonnell ac eithrio—
(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu, yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfernir yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
(iii)person sy’n byw fel arfer gyda myfyriwr rhan-amser cymwys newydd fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
(g)ni thrinnir person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7).
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn hafal i adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—
(a)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd; ac
(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu adnoddau’r myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar gyfer y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn honno unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.
(11) Nid yw paragraff (10) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: