Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

68.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau a ganlyn—

(i)£1,025; neu

(ii)y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4) o Atodlen 1.

(7Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (8) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.

(8Y benthyciadau a’r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(1); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(2).

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (12), nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(10At ddibenion paragraff (9), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a

(b)y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(11Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.

(12Nid yw paragraff (9) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd gyntaf sydd gan y myfyriwr o sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell presennol.

(13Pan fo paragraff (10) yn gymwys, caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn yn unol â pharagraffau (14) i (16).

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (16), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (12) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol.

(15Yn ddarostyngedig i baragraff (16), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (12) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(16Caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (8) fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn ac eithrio yn unol â pharagraffau (14) a (15), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

(1)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth Myfyrwyr) (Yr Alban) 2001, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Diwygiwyd adran 74 gan adran 82 o Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39) ac Atodlen 10 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources