- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (sefydliadau ac asiantaethau) mewn cysylltiad â chynnal sefydliad perthnasol neu asiantaeth berthnasol wedi marw cyn y prif ddiwrnod penodedig;
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu yn ysgrifenedig am y farwolaeth honno; ac
(c)pan fo cynrychiolydd personol, yn union cyn y prif ddiwrnod penodedig, yn cynnal y sefydliad neu’r asiantaeth heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r sefydliad neu’r asiantaeth yn unol â—
(i)rheoliad 43(3) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002;
(ii)rheoliad 39(3) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;
(iii)rheoliad 30(3) o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003;
(iv)rheoliad 29(3) o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)mae hawlogaeth gan y cynrychiolydd personol i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i’r graddau bod hawlogaeth gan y darparwr cofrestredig, yn union cyn ei farwolaeth, i gynnal y gweithgaredd hwnnw mewn sefydliad cofrestredig neu asiantaeth gofrestredig yn rhinwedd ei gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000; a
(b)mae gan y person hawlogaeth o’r fath am y cyfnod a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo’r cynrychiolydd personol, cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi cynnal y sefydliad neu’r asiantaeth am lai nag 28 o ddiwrnodau ac nad oes unrhyw estyniad wedi ei ganiatáu i’r cyfnod hwnnw o dan y rheoliadau a bennir ym mharagraff (1)(c), weddill y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau o’r dyddiad pan gymerodd y cynrychiolydd drosodd y gwaith o gynnal y sefydliad neu’r asiantaeth; neu
(b)pan fo’r cynrychiolydd personol, cyn y prif ddiwrnod penodedig, wedi cael estyniad o dan y rheoliadau a bennir ym mharagraff (1)(c), y cyfnod sy’n gorffen ar y dyddiad y daw’r estyniad hwnnw i ben.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) am gyfnod pellach o’r fath, nad yw’n hwy na blwyddyn, a rhaid iddynt hysbysu’r cynrychiolydd personol am unrhyw benderfyniad o’r fath yn ysgrifenedig.
(5) Rhaid i gynrychiolydd personol y darparwr cofrestredig ymadawedig sicrhau bod person sydd wedi ei benodi i fod â gofal llawnamser o ddydd i ddydd am ddarparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig yn ystod unrhyw gyfnod y bydd yn cynnal y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, yn unol â’r erthygl hon, heb fod wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: