Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 97 (Cy. 46)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016

Gwnaed

28 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Chwefrorr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2);

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3); ac

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio ȃ Chodi Tȃl) (Cymru) 2007(4).

Diwygio Rheoliadau 1986

3.  Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.

Diwygio Rheoliadau 1997

4.  Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.

Diwygio Rheoliadau 2007

5.  Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007, yn lle “31 Mawrth 2016” rhodder “31 Mawrth 2017”.

Dirymu

6.  Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015(5) wedi eu dirymu.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1986/975) (“Rheoliadau 1986”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (1997/818) (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio ȃ Chodi Tȃl) (Cymru) 2007 (2007/1104 (Cy. 116)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1986 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael profion golwg yn rhad ac am ddim hyd at fis Mawrth 2017.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1997 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael taliadau i dalu’r costau am declynnau optegol, neu i gael taliadau i gyfrannu tuag at y costau hynny, hyd at fis Mawrth 2017.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2007 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael eu treuliau teithio GIG wedi eu talu’n llawn ac i beidio â thalu ffi GIG hyd at fis Mawrth 2017.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015 (2015/631 (Cy. 51)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas ȃ’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio ȃ’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1986/975 fel y’i diwygiwyd.

(3)

O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.

(4)

O.S. 2007/1104 (Cy. 116) fel y’i diwygiwyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources