- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
25 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 257(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2. 5 Awst 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn ddod i rym—
(a)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at ddiben gwneud rheoliadau; a
(b)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddiben dyroddi canllawiau.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2016
Erthygl 2
1. Adran 23 (darpariaethau atodol).
2. Adran 29 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract).
3. Adran 32(4) (yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys).
4. Adran 45(3) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal).
5. Adran 94 (penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi).
6. Adran 112 (tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser).
7. Adran 131 (tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser).
8. Adran 203(5) a (6) (adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad).
9. Adran 221 (gwaredu eiddo).
10. Adran 236(3) a (4) (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill).
11. Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (ymestyn y cyfnod perthnasol).
12. Paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
13. Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (llety myfyrwyr).
14. Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (llety nad yw’n llety cymdeithasol).
15. Paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
16. Paragraff 4(7) a (8) o Atodlen 4 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol).
17. Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (cynlluniau blaendal).
18. Paragraff 5(7) a (8) o Atodlen 7 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf).
19. Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (amrywio).
20. Paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
21. Adran 116(4) (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).
22. Adran 146(1) (gwahardd dros dro: canllawiau).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 5 Awst 2016 at ddibenion gwneud rheoliadau a dyroddi canllawiau.
Mae erthygl 2(a) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben gwneud rheoliadau yn unig.
Mae erthygl 2(b) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben dyroddi canllawiau yn unig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: