- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Mae Rheoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012(1) mewn perthynas â cheisiadau o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 2(2), rhaid darllen y diffiniad o “yr awdurdod sy’n penderfynu” (“the determining authority”) fel pe bai is-baragraff (b) a’r gair “neu” sy’n ei ragflaenu wedi eu hepgor.
(3) Nid yw rheoliadau 4 i 9 yn gymwys.
(4) Rhaid darllen rheoliad 10(1) fel pe rhoddid “at Weinidogion Cymru cyn i’r cyfnod sylwadau ddod i ben” yn lle “at yr awdurdod sy’n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais”.
(5) Nid yw rheoliad 10(3) i (6) yn gymwys.
(6) Nid yw rheoliadau 11 i 18 yn gymwys.
2.—(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2) Rhaid darllen erthygl 2 (dehongli) fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y man priodol—
“ystyr “tir comin” (“common land”) yw tir o fath a bennir yn adran 38(5)(a) a (b) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;”.
(3) Rhaid darllen erthygl 12 (ceisiadau: gofynion cyffredinol) fel pe bai rhaid i’r cais ddod gydag—
(a)map sy’n dangos y tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno, gydag—
(i)ffin y tir comin wedi ei marcio â lliw gwyrdd; a
(ii)safle’r gwaith arfaethedig wedi ei farcio â lliw coch;
(b)(pan fo’n briodol) plan neu luniad o’r gwaith arfaethedig; ac
(c)os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, copi o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr o dir comin gedwir gan yr awdurdod cofrestru tiroedd comin perthnasol o dan adran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
(4) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe bai’r hysbysiad gofynnol yn cynnwys—
(a)enw’r ceisydd;
(b)enw’r tir comin yr effeithir arno gan y gwaith arfaethedig;
(c)disgrifiad o’r gwaith arfaethedig a’i leoliad.
(5) Rhaid darllen erthygl 18(2)(b) fel pe bai rhaid anfon yr hysbysiad gofynnol at—
(a)perchennog y tir y bwriedir gwneud y gwaith arno (os nad y perchennog yw’r ceisydd);
(b)unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r tir;
(c)os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr tir comin fel eiddo sydd â hawliau comin yn gysylltiedig ag ef, ac y cred y ceisydd fod y meddiannydd yn arfer yr hawliau hynny, neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;
(d)unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin ar y tir ac y cred y ceisydd ei fod yn arfer yr hawliau hynny neu fod y cais yn debygol o effeithio arno;
(e)y cyngor cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y bwriedir gwneud y gwaith ynddi.
(6) Rhaid darllen erthygl 18(3) fel pe bai rhaid i’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (4)(a) i (c).
(7) Rhaid darllen erthygl 19(2) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—
“(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, am ddim llai na 21 diwrnod, yn y prif fannau mynediad i’r tir comin y bwriedir gwneud y gwaith arno (neu, os nad oes mannau o’r fath, mewn man amlwg ar ffin y tir comin hwnnw).”
(8) Rhaid darllen erthygl 29(3) fel pe rhoddid yn ei lle y canlynol—
“(3) Rhaid i’r penderfyniad ddatgan, gan roi rhesymau, pa un a yw cydsyniad ar gyfer y gwaith arfaethedig—
(a)wedi ei roi fel y gofynnwyd yn y cais;
(b)wedi ei roi yn rhannol yn unig, neu’n ddarostyngedig i addasiadau neu amodau; neu
(c)wedi ei wrthod.”
3. Yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn y modd y’u cymhwysir i gais am gydsyniad o dan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, mae cyfeiriad at “person penodedig” (“appointed person”) yn gyfeiriad at y person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Gwaith ar Diroedd Comin, etc. (Gweithdrefn) (Cymru) 2012.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: