- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (“y Prif Reoliadau”). Mae’r Prif Reoliadau yn darparu bod adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir (fferm wynt ar y tir) sydd â gallu cynhyrchu rhwng 10 a 50 megawat o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Maent hefyd yn darparu bod estyn neu addasu fferm wynt ar y tir o arwyddocâd cenedlaethol os mai effaith y gwaith estyn neu addasu bydd cynyddu’r gallu cynhyrchu gan o leiaf 10 megawat ond nid fel bod y gallu cynhyrchu gosodedig yn uwch na 50 megawat.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r meini prawf o ran bod adeiladu, estyn neu addasu fferm wynt ar y tir yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.
Nid yw’r diwygiadau a wneir i’r Prif Reoliadau yn cymryd effaith hyd nes bod Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016 a Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir) 2016 wedi dod i rym.
Effaith Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016 yw nad oes angen cydsyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru a Lloegr o dan adran 36(4) o Ddeddf Trydan 1989, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed.
Effaith Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir) 2016 yw nad oes angen cydsyniad datblygu mwyach ar gyfer adeiladu, addasu neu estyn ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (“Deddf 2008”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o’r Prif Reoliadau. Mae’n diwygio’r diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” ac yn mewnosod diffiniadau o “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” a “y Gorchmynion”.
Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 4A. Mae’r rheoliad newydd yn nodi’r meini prawf o ran bod adeiladu, estyn neu addasu fferm wynt ar y tir yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.
Effaith y diwygiadau yn rheoliad 3 yw bod rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio i (a) adeiladu ffermydd gwynt ar y tir fydd â gallu cynhyrchu o 10 megawat neu uwch, a (b) estyn neu addasu fferm wynt ar y tir mewn modd sy’n cynyddu ei gallu cynhyrchu disgwyliedig gan 10 megawat neu uwch, yng Nghymru i Weinidogion Cymru.
Gwneir darpariaethau arbed ar gyfer cydsyniadau o dan Ddeddf Trydan 1989, cydsyniadau datblygu o dan Ddeddf 2008 a cheisiadau ar gyfer cydsyniad datblygu o dan Ddeddf 2008 a dderbyniwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Lluniwyd asesiad effaith mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Arolygiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: