Search Legislation

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 276 (Cy. 100)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

2 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mawrth 2016

Yn dod i rym

26 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(2)(b), 55(2) a 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 26 Mawrth 2016.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(2).

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 2015

2.  Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

“ystyr “yn cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus;”; ac

“ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3);”.

4.  Yn lle rheoliad 3 rhodder—

Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysol

3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun o dan Ddeddf 2004 at ddibenion y cyfnod trosiannol:

(a)yn gwrs addysg uwch;

(b)wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac

(c)yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru.

(2) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os nad oedd y sefydliad a oedd yn darparu’r cwrs, ar yr adeg y cafodd y person cymhwysol gynnig lle ar y cwrs hwnnw, yn cael ei gyllido’n gyhoeddus.

3A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), cwrs cymhwysol at ddiben cynllun ffioedd a mynediad nad yw’n gynllun o dan Ddeddf 2004 yw cwrs addysg uwch sy’n gallu cael ei ddynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 (ni waeth pa un a yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn cael ei gyllido’n gyhoeddus).

(2) Pan fo cwrs yn cael ei ddarparu gan berson ar ran sefydliad, nid yw’r cwrs hwnnw yn gwrs cymhwysol os nad yw’r person hwnnw yn elusen.

3B.  At ddibenion rheoliadau 3 a 3A, nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol:

(a)os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012;

(b)os yw’n gwrs penben ac os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (a); neu

(c)os yw’n gwrs rhan-amser.”

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Mawrth 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”), y mae adran 5 ohoni yn nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau dehongli Rheoliadau 2015 drwy fewnosod dau ddiffiniad newydd.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 3 newydd a rheoliadau newydd 3A a 3B yn lle rheoliad 3 o Reoliadau 2015.

Mae’r rheoliad 3 newydd yn rhagnodi’r disgrifiad o gwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun o dan Ddeddf 2004 (cynllun a gymeradwywyd o ran Cymru o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 cyn 1 Awst 2015) at ddibenion y cyfnod trosiannol o dan Ddeddf 2015.

Mae rheoliad newydd 3A yn rhagnodi’r disgrifiad o gwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad o dan Ddeddf 2015 nad yw’n gynllun o dan Ddeddf 2004.

Mae rheoliad newydd 3B yn darparu, at ddibenion rheoliad 3 newydd a rheoliad newydd 3A, ar gyfer pa bryd nad yw cwrs yn gwrs cymhwysol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources