- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
23 Chwefror 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2. 25 Chwefror 2015 yw’r diwrnod penodedig y bydd y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf yn dod i rym—
(a)adran 101 (asesu anghenion llety);
(b)adran 102 (adroddiad yn dilyn asesiad);
(c)adran 105 (darparu gwybodaeth ar gais);
(d)adran 106 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 107 (dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai);
(f)adran 108 (dehongli);
(g)adran 109 (pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr); a
(h)adran 110 (diwygiadau canlyniadol) a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 25 Chwefror 2015 Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”), ac eithrio adrannau 103 a 104 ac yn dwyn i rym adran 106 at y dibenion sy’n weddill. Mae’r gorchymyn hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf (mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr).
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 2 yn cychwyn, at bob diben, adrannau 101, 102, 105, 107 i 110 a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae erthygl 2(d) yn dwyn adran 106 i rym at y dibenion sy’n weddill.
Mae adran 101 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gynnal asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn eu hardal neu sy’n ymweld â hi o dro i dro.
Mae adran 102 yn darparu bod rhaid i awdurdodau tai lleol gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.
Mae adran 105 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol ddarparu ar gais i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth i’w galluogi i gyflawni’u swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf.
Mae adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
Mae adran 107 yn nodi’r dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol mewn perthynas ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr pan fo awdurdod tai lleol yn paratoi strategaeth dai o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Mae adran 108 yn diffinio’r prif ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3 o’r Ddeddf.
Mae adran 109 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr o dan adran 108 a gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i adlewyrchu newidiadau pellach i’r diffiniad.
Mae adran 110 yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 3 o’r Ddeddf.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 5 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 7 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 8 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 10 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 12 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 14 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 15 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 16 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 19 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 20 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 21 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 23 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 29 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 41 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 42 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 46 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 49 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 50 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 57 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 64 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 72 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 78 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 80 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 81 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 86 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 95 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 98 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 99 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 106 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adrannau 111 i 128 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 131(4)(c) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 137 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 140 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 144 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym ddeufis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: