- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae’n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ac y caiff ddarparu canllawiau i awdurdodau tân ac achub o ran cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau. Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub roi sylw i’r fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016 (“y Fframwaith”) yn lle Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012.
Y prif wahaniaethau yw bod y Fframwaith yn pennu blaenoriaethau diwygiedig ar gyfer awdurdodau tân ac achub o dan chwe amcan allweddol, sef y dylai awdurdodau tân ac achub—
(1) mynd ati’n barhaus ac yn gynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau;
(2) ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau;
(3) bod yn atebol yn glir ac yn gyhoeddus am gyflawni a chyllido, gan ddangos y safonau llywodraethu uchaf;
(4) parhau i geisio lleihau costau ac achub ar bob cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd;
(5) cydweithio’n effeithiol â phartneriaid i wella effeithlonrwydd a gwella lles dinasyddion a chymunedau;
(6) gwerthfawrogi’r gweithlu a’i ddatblygu i’r safonau uchaf.
Mae’r Fframwaith yn cael effaith o 1 Ionawr 2016 ac yn para am gyfnod penagored. Gellir cael copïau o’r Fframwaith oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru ar 25 Tachwedd 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8226.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: