Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae’n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ac y caiff ddarparu canllawiau i awdurdodau tân ac achub o ran cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau. Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub roi sylw i’r fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016 (“y Fframwaith”) yn lle Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012.
Y prif wahaniaethau yw bod y Fframwaith yn pennu blaenoriaethau diwygiedig ar gyfer awdurdodau tân ac achub o dan chwe amcan allweddol, sef y dylai awdurdodau tân ac achub—
mynd ati’n barhaus ac yn gynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau;
ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau;
bod yn atebol yn glir ac yn gyhoeddus am gyflawni a chyllido, gan ddangos y safonau llywodraethu uchaf;
parhau i geisio lleihau costau ac achub ar bob cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd;
cydweithio’n effeithiol â phartneriaid i wella effeithlonrwydd a gwella lles dinasyddion a chymunedau;
gwerthfawrogi’r gweithlu a’i ddatblygu i’r safonau uchaf.
Mae’r Fframwaith yn cael effaith o 1 Ionawr 2016 ac yn para am gyfnod penagored. Gellir cael copïau o’r Fframwaith oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru ar 25 Tachwedd 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8226.