- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
32. Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Mae darpariaethau adran 10 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o Atodlen 12 yn gymwys at ddiben y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â rheoliadau 8 i 22 o’r Rheoliadau hyn neu un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o Dabl 1 o Atodlen 12.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 10 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
(3) Ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—
(a)os byddai’r hysbysiad gwella yn gysylltiedig â dŵr a gafodd ei botelu a’i labelu cyn 28 Tachwedd 2015; a
(b)os na fyddai’r materion sy’n peri’r tramgwydd honedig yn cyfrif fel trosedd o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37.
(4) Os nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn bodloni gofynion paragraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 7, ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—
(a)os cafodd y dŵr dan sylw ei botelu neu ei werthu mewn Gwladwriaeth AEE ar wahân i’r Deyrnas Unedig; a
(b)os oedd y dŵr yn cydymffurfio â’r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—
(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;
(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac
(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
35. Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Bydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddwyd o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu 1999, neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 ac sy’n bodoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2)(a); a
(b)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i).
(2) Nid yw dirymiad y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth na hysbysiad a wnaed neu a roddwyd gan yr Asiantaeth neu’r awdurdod bwyd fel yr awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hynny, ac mae unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth neu hysbysiad o’r fath yn parhau i gael effaith.
(3) Pan fo cais wedi ei wneud o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 i awdurdod bwyd am gydnabyddiaeth i ddŵr fel dŵr mwynol naturiol, mae’r cais i’w drin fel pe byddai wedi ei wneud o dan Rannau 1 neu 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
37. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007(1);
(b)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009(2);
(c)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010(3);
(d)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) 2011(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
38. Mae Atodlen 13 (diwygiadau i ddeddfwriaeth arall) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
O.S. 2007/3165 (Cy. 276), diwygiwyd gan O.S. 2009/1897 (Cy. 170), 2010/748 (Cy. 76), 2011/400 (Cy. 57).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: