Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 18(2)

ATODLEN >2Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

1.—(1Pan fo A yn breswylydd dros dro ond nid yn ddarpar breswylydd, gwerth prif neu unig gartref A mewn amgylchiadau pan fo—

(a)A yn cymryd camau rhesymol i waredu’r annedd er mwyn caffael annedd arall y bwriada ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref; neu

(b)A yn bwriadu dychwelyd i feddiannu’r annedd honno fel ei brif neu ei unig gartref, a’r annedd yn parhau ar gael i A.

(2Pan fo A yn breswylydd dros dro sydd yn ddarpar breswylydd, gwerth prif neu unig gartref A mewn amgylchiadau pan fo A yn bwriadu, ar ôl darparu neu sicrhau llety mewn gwirionedd iddo yn unol â’r Ddeddf—

(a)cymryd camau rhesymol i waredu’r annedd er mwyn caffael annedd arall y bwriada ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref; neu

(b)dychwelyd i feddiannu’r annedd honno fel ei brif neu ei unig gartref, a’r annedd y bwriada A ddychwelyd iddi ar gael i A.

2.—(1Pan fo A yn breswylydd parhaol, gwerth prif neu unig gartref A, y byddai A fel arall yn ei feddiannu fel arfer (“cartref A”) am gyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae A yn symud i mewn gyntaf i lety mewn cartref gofal (“y cyfnod preswylio parhaol cyntaf”).

(2Pan fo A—

(a)yn peidio â bod yn breswylydd parhaol; a

(b)wedyn yn dod yn breswylydd parhaol drachefn ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 52 wythnos sy’n dechrau ar ôl diwedd y cyfnod preswylio parhaol cyntaf,

gwerth cartref A am y cyfryw gyfnod (os oes un) na fydd, o’i ychwanegu at y cyfnod a ddiystyrwyd o dan is-baragraff (1) mewn cysylltiad â’r cyfnod preswylio parhaol cyntaf, yn gwneud cyfanswm o fwy na 12 wythnos.

(3Pan fo A—

(a)yn peidio â bod yn breswylydd parhaol, ac yntau’n berson na fu is-baragraff (2) yn gymwys iddo; a

(b)wedyn yn dod yn breswylydd parhaol drachefn ar unrhyw adeg ar ôl cyfnod o 52 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod preswylio parhaol cyntaf,

gwerth cartref A am gyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ail gyfnod preswylio parhaol yn dechrau.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “yr ail gyfnod preswylio parhaol” (“the second period of permanent residence”) yw’r cyfnod o breswylio parhaol sy’n dechrau ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o 52 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

3.  Pan fo A yn breswylydd parhaol, a newid annisgwyl yn digwydd yn ei amgylchiadau ariannol, caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth prif neu unig gartref A, y byddai A fel arall yn ei feddiannu fel arfer, am gyfnod o 12 wythnos.

4.—(1Gwerth unrhyw fangre—

(a)a ddiystyrid o dan baragraff 2 neu 4(b) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre a gaffaelwyd ar gyfer ei meddiannu, a mangre a feddiennir gan gyn-bartner) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”; neu

(b)a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A, a fu’n meddiannu’r fangre fel ei brif neu ei unig gartref ers rhywdro cyn y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(2Caiff awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A os meddiannwyd y fangre gan y perthynas cymwys ar ôl y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

(3Gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos pan fo’r awdurdod lleol wedi diystyru gwerth y fangre o dan is-baragraff (1)(b) neu (2) a naill ai bu farw’r perthynas hwnnw neu nad yw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd bod llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau iddo mewn cartref gofal.

(4Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos os oedd y fangre wedi ei meddiannu yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan berthynas cymwys i A fel ei brif neu ei unig gartref ac nad yw’r perthynas hwnnw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd newid annisgwyl yn ei amgylchiadau.

(5Yn y paragraff hwn—

ystyr “perthynas cymwys” (“qualifying relative”) yw—

(a)

partner A;

(b)

aelod arall o deulu A neu berthynas i A sy’n 60 oed neu’n hŷn neu sy’n analluog; neu

(c)

plentyn sydd o dan 18 oed;

mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “child” yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 1987(1).

5.  Pan fo A yn breswylydd sydd wedi peidio â meddiannu’r annedd yr arferai ei meddiannu fel ei brif neu ei unig gartref ar ôl ymwahanu neu ysgaru oddi wrth ei gyn-bartner, gwerth buddiant A yn yr annedd honno os yw’r cyn-bartner, sy’n unig riant, yn parhau i’w meddiannu fel ei gartref.

6.  Gwerth derbyniadau gwerthiant unrhyw fangre a ddiystyrid o dan baragraff 3 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (derbyniadau gwerthiant mangre yr arferid ei meddiannu).

7.  Unrhyw fuddiant yn y dyfodol mewn eiddo a ddiystyrid o dan baragraff 5 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (buddiannau yn y dyfodol mewn eiddo ac eithrio tir neu fangreoedd penodol).

8.  Unrhyw asedau a ddiystyrid o dan baragraff 6 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (asedau busnes), ond fel pe rhoddid, yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, yn lle’r geiriau o “the claim for income support” hyd at ddiwedd yr is-baragraff—

(a)pan fo A yn breswylydd ac eithrio darpar breswylydd, y geiriau “the accommodation was initially provided or secured”;

(b)pan fo A yn ddarpar breswylydd, y geiriau “the local authority began to assess A’s ability to pay for, contribute, or make reimbursements towards the cost of their accommodation under these Regulations and the Care and Support (Charging) (Wales) Regulations 2015”.

9.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 7(1) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ôl-ddyledion o daliadau penodedig), ond fel pe bai’r geiriau “Subject to sub-paragraph (2)” ar ddechrau’r is-baragraff hwnnw wedi eu hepgor a’r cyfeiriad ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw at baragraffau 6, 8 neu 9 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm arall sydd i’w ddiystyru) yn gyfeiriad at baragraffau 7 i 10 o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm).

10.  Unrhyw ôl-daliad, neu unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd ôl-ddyled a achoswyd gan fethiant i dalu—

(a)credyd treth plant;

(b)credyd treth gwaith;

(c)taliad a wneir o dan unrhyw un o’r canlynol—

(i)Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881;

(ii)y warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884;

(iii)y Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922,

i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron ac y terfynodd eu gwasanaeth mewn swydd o’r fath cyn 31 Mawrth 1973, ond hyn yn unig am gyfnod o 52 wythnos o’r dyddiad y cafwyd yr ôl-daliad neu’r taliad consesiynol.

11.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 8 neu 9 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (atgyweiriadau i eiddo ac ernesau cymdeithasau tai).

12.  Unrhyw eitemau o eiddo personol ac eithrio rhai sydd, neu a oedd, wedi eu caffael gan A gyda’r bwriad o leihau ei gyfalaf er mwyn bodloni awdurdod lleol ei fod yn analluog i dalu tuag at gost ei ofal a chymorth neu gynhorthwy.

13.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 11 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm o dan flwydd-dal).

14.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 12 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (ymddiriedolaethau anaf personol).

15.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 12A o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau anaf personol) ac eithrio unrhyw daliad neu unrhyw ran o unrhyw daliad sydd wedi ei enwi’n benodol gan lys ar gyfer delio â’r gost o ddarparu gofal.

16.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 13 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (buddiant am oes neu rent am oes).

17.  Gwerth yr hawl i gael unrhyw incwm a ddiystyrir o dan baragraff 20 o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm).

18.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 15, 16, 18, 18A neu 19 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (gwerth ildio polisi yswiriant bywyd, rhandaliadau heb eu casglu, taliadau cronfa gymdeithasol, darpariaeth lles lleol ac ad-daliadau treth ar log benthyciadau penodol).

19.  Unrhyw gyfalaf sydd, o dan reoliad 16 (cyfalaf a drinnir fel incwm), i’w drin fel incwm.

20.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 21 i 24 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (tâl neu gomisiwn am drosi cyfalaf i sterling, yr Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa a’r Gronfa Byw’n Annibynnol, gwerth yr hawl i gael pensiwn personol neu alwedigaethol, gwerth cronfeydd o dan gynllun pensiwn personol a rhent).

21.  Unrhyw swm a delir o dan neu gan Gynllun Byw’n Annibynnol Cymru.

22.  Gwerth unrhyw fangre a ddiystyrid o dan baragraff 27 neu 28 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre y mae hawlydd yn bwriadu ei meddiannu) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”.

23.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraffau 29 i 31, 34 a 36 i 43 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau o gronfeydd mewn nwyddau neu wasanaethau, bonysau hyfforddi, digollediad budd-dal tai, taliadau i reithwyr neu dystion, lleihad mewn atebolrwydd am dâl cymunedol personol, grantiau tai, treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd, taliadau bwyd lles, grant iechyd yn ystod beichiogrwydd, taliadau cynllun ymweliadau carchar, taliadau arbennig i weddwon rhyfel, taliadau cyflogaeth i bersonau anabl, a thaliadau i ddeillion sy’n gweithio gartref).

24.  Gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan drydydd parti, pan fo’r awdurdod lleol o’r farn y byddai’n rhesymol diystyru gwerth y fangre honno.

25.  Unrhyw swm—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 44(2)(a) (iawndal am anaf personol), ac y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 44(1)(a) neu (b), o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm; neu

(b)y byddid yn ei ddiystyru o dan baragraff 45(a) o’r Atodlen honno.

26.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 61 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliad ex gratia a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ganlyniad i garcharu neu gaethiwo gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd).

27.  Unrhyw daliad a ddiystyrid o dan baragraff 64 o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (taliadau o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd allan o gronfeydd a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â phersonau a ddioddefodd neu sy’n dioddef o glefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob).

28.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol i A, neu ar ran A, mewn perthynas â gwasanaethau lles y talwyd grant i’r awdurdod lleol mewn cysylltiad â hwy gan Weinidogion Cymru o dan adran 93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, pan fo A yn gymwys i gael y taliad.

29.  Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 2(6)(b) neu 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

30.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004 (hawlogaeth: achosion sylfaenol neu arbennig)(2).

31.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan Ran 2 (taliadau i bersonau dros 65 oed) neu Ran 3 (taliadau i bersonau sy’n cael credyd gwarant) o Reoliadau Taliadau ar Sail Oedran 2005(3).

32.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (“Deddf 1968”) (lwfansau teithio a lwfansau eraill i bersonau sy’n manteisio ar hyfforddiant) at y diben o dalu costau gofal plant pan ddarperir yr hyfforddiant yn unol ag—

(a)adran 63(1)(a) o Ddeddf 1968; neu

(b)adran 63(1)(b) o Ddeddf 1968 a phan fo A yn cael ei gyflogi mewn gweithgaredd, neu’n ystyried cael ei gyflogi mewn gweithgaredd sy’n ymwneud â, neu sy’n gysylltiedig â, gwasanaeth y mae’n rhaid, neu y caniateir, ei ddarparu neu ei sicrhau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

33.  Unrhyw daliad a wneir i A yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidwaid arbennig) pan fo A yn ddarpar warcheidwad arbennig neu’n warcheidwad arbennig.

34.  Unrhyw daliad a wneir i A o dan reoliadau a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oedran 2004 (pŵer i ddarparu taliadau yn y dyfodol).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources